Gwasanaeth Tân Phoenix
Aeth grŵp o bobl ifanc o wasanaeth Cynnydd CNPT i gwrs hyfforddiant 5 niwrnod yn ddiweddar yng Ngwasanaeth Tân Phoenix, Port Talbot. Mae Cynnydd CNPT yn rhan o Gyflogadwyedd CNPT a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Nod Cynnydd CNPT yw meithrin perthnasoedd â phobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed a nodwyd gan ysgolion Castell-nedd Port Talbot er mwyn chwalu rhwystrau at ymwneud ag addysg a gweithio tuag at ganlyniadau a fydd yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd iddynt. Cyflwynodd Gwasanaeth Tân Phoenix gyfres o sesiynau hyfforddiant â'r nod o ennyn diddordeb a gwella sgiliau’r cyfranogwyr ifanc a rhoi hwb i’w hyder Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys: chwilio ac achub, gweithio mewn sefyllfaoedd lle mae'n anodd gweld ymhell, gweithio fel tîm a datrys problemau. Gwnaeth y bobl ifanc sylwadau ar sut roedd heriau'r hyfforddiant wedi'u helpu i sylweddoli faint o gryfder a dyfeisgarwch mewnol sydd ganddynt, sydd wedi helpu i roi hwb i'w hyder.
Meddai Jenna Powell, Arweinydd Tîm Cynnydd, "Roedd yn wych gweld y bobl ifanc yn llawn cyffro ynghylch cymryd rhan. Mae llusgo dymis drwy dwnelu, gweithio drwy ddatrysiadau a dysgu dril y Gwasanaeth Tân i gyd yn weithgareddau gwych sy'n helpu pobl ifanc i ddatblygu hyder. Mae Gwasanaeth Tân Phoenix yn parhau i fod yn bartneriaid rhagorol wrth helpu Gwasanaeth Cynnydd i gyrraedd ei amcanion."
Gwasanaeth a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cyflogadwyedd CNPT, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
I gael gwybodaeth am sut y gall Cyflogadwyedd CNPT helpu pobl i gael hyfforddiant a phrofiad gwaith wedi'u hariannu, neu os ydych yn gyflogwr sy'n chwilio am staff newydd, ffoniwch 01639 684250.
Chwilio am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cyflogadwyedd CNPT
#CronfaFfyniantGyffredinyDU

