Gwirfoddoli i drechu gorbryder
Mae Mentor Cyflogadwyedd CNPT John Evans wedi wynebu ei frwydr ei hun yn erbyn gorbryder. Mae John yn disgrifio sut mae gwirfoddoli wedi ei helpu i ymdopi.
“Yn ystod Covid, roedd fy ngorbryder yn deillio o unigrwydd. Gan fy mod i'n gadwraethwr amatur, roedd mynd allan i'r coetiroedd yn bendant wedi fy helpu i ymdrin â hyn. O brofiad, rwy'n gwybod y gall gwirfoddoli helpu pobl i oresgyn y gorbryder o ddechrau swydd. Rwy'n gwirfoddoli gyda’r prosiect Adfer Mawndiroedd. Mae'r prosiect yn cynnig cyfle i fod yn yr awyr agored, yn ogystal ag arolygon o fywyd gwyllt, megis ystlumod, gwyfynod, llygod y dŵr a sgyrsiau ar-lein.
Cymerodd dau o'm cyfranogwyr yng ngwasanaeth Cyflogadwyedd CNPT, Matthew a Zac, ran mewn Diwrnod Adfer Mawndiroedd, gan glirio rhywogaethau planhigion anfrodorol. Y nod yw galluogi rhywogaethau brodorol i dyfu, gan gefnogi gwenyn a pheillwyr lleol eraill.
Trefnwyd y sesiwn fel rhagflas i weld a fyddai ganddynt ddiddordeb. Nodau ac amcanion y diwrnod oedd amlygu pwysigrwydd magu hyder, gwaith tîm a chyflwyno ceisiadau am swyddi yn y sector gwyrdd. Gwnaethon ni glirio sawl ardal a dod ar draws planhigion ac anifeiliaid amrywiol, gan wneud ein gorau glas i'w nodi a'u trafod. Dangosodd adborth mai diwrnod buddiol o weithio fel tîm ydoedd. Gobeithio y bydd cyfranogwyr eraill yng ngwasanaeth Cyflogadwyedd CNPT yn awyddus i gymryd rhan yn y prosiect Adfer Mawndiroedd a grwpiau gwirfoddoli eraill.”
Meddai Mathew, “Gwnes i fwynhau'r profiad o wirfoddoli'n fawr. Roedd yn llawn gwybodaeth am y prosiectau cadwraeth amrywiol. Roedd gwneud y gwaith a bod yn yr awyr agored o fudd i'm lles meddwl, gan roi rhyddhad i mi o'm gorbryder llethol arferol. Byddwn i wrth fy modd yn gwneud rhywbeth tebyg eto.”
Meddai Zac, “Roedd gwirfoddoli gyda'r prosiect Adfer Mawndiroedd yn hynod bleserus. Mae'r prosiect yn helpu'r bobl sy'n cymryd rhan, yn ogystal â’r amgylchedd. Roedd y gwaith gwirfoddoli'n ymwneud â chynnal a chadw ein hamgylchedd naturiol, ac mae hynny'n brofiad llawn boddhad ynddo ei hun. Roedd rhoi help llaw o fudd i'm meddwl fy hun a'r byd yn gyffredinol ac rwy'n ei gymeradwyo'n fawr.”
Ychwanegodd John, “Mae gwasanaeth Cyflogadwyedd CNPT yn cynnig llawer o gyfleoedd gwirfoddoli. Os oes gennych chi ddiddordeb, ffoniwch 01639 684250.”
Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect Adfer Mawndiroedd yn http://www.npt.gov.uk/lostpeatlands
Gwasanaeth a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cyflogadwyedd CNPT, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

