Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yn cael ei chyflwyno i Arweinydd Cyn Ysgol ysbrydoledig, Jessica
Mae Jessica Williams, sy'n 34 oed ac yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot yn arweinydd cyn ysgol yn Sêr Bach y Cwm, Ystradgynlais ac mae wedi ennill y wobr fawreddog 'Prentis Uwch y Flwyddyn' yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024.
Ar ôl i ffrwydrad nwy ddifetha cartref Jessica ym Mlaendulais yn 2020, dioddefodd Jessica anafiadau a oedd wedi newid ei bywyd. Gwnaeth Jessica oresgyn y rhain, a pharau yn ei rôl fel arweinydd cyn ysgol - roedd hi'n ysbrydoliaeth i bawb o'i chwmpas.
Er mwyn datblygu ei gwybodaeth a'i sgiliau, cofrestrodd Jessica ar gyfer prentisiaeth uwch (lefel 5) mewn Gofal Plant, Dysgu a Datblygiad, Arweinyddiaeth a Rheoli.
Gweithiodd Jessica'n galed iawn. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd Jessica ei thystysgrif lefel 5, cyflawniad y mae'n hynod falch ohono.
Pan ofynnwyd iddi am yr hyn yr oedd hi'n ei gwerthfawrogi fwyaf am y cwrs, meddai Jessica, "dysgu mwy am sut i reoli gofal plant, a'r ffyrdd gorau o gyfathrebu â'r tîm."
Byddai Jessica yn annog unrhyw un sy'n bwriadu datblygu ei yrfa i ymchwilio i gyrsiau prentisiaeth yng Nghymru.
Meddai Jessica, "Roedd ysgrifennu aseiniadau unwaith eto'n eithaf anodd oherwydd doeddwn i heb fod mewn addysg amser llawn ers sbel hir. Ond mae'n rhaid i chi gredu ynoch chi'ch hun - ewch amdani!"
Os ydych yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot ac mae gennych ddiddordeb mewn prentisiaethau, ffoniwch Andy Cavill, Cydlynydd Prentisiaeth, Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 07976 623914.
Gwasanaeth a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cyflogadwyedd CNPT, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

