Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Prosiect coginio

Mae Tîm Horizon y Gwasanaethau Ieuenctid wedi rhoi cyfle i bobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot gymryd rhan mewn prosiect coginio yn ystod yr haf.

Mae llawer o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd yn yr argyfwng costau byw, ac mae nifer cynyddol o bobl yn wynebu tlodi. Amcan y prosiect oedd helpu i fynd i'r afael â hyn drwy addysgu pobl ifanc ynghylch ble i ddod o hyd i fwydydd iach a gynhyrchir yn lleol, ystyried ryseitiau a lleihau gwastraff bwyd yn ogystal â rhoi'r cyfle iddynt ddysgu technegau coginio sylfaenol i greu prydau iach a maethlon. Rhoddwyd cyfle hefyd i'r bobl ifanc ennill cymhwyster ymwybyddiaeth o Hylendid Bwyd ac Alergeddau.

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae'r grŵp wedi treulio amser yn y gegin gymunedol yn dysgu i baratoi a choginio prydau sylfaenol, yn ogystal ag ymweld â Marchnad Abertawe i siarad â chynhyrchwyr bwyd lleol i gael gwybod am gynnyrch tymhorol cynaliadwy ac ymweld â fferm 'casglu eich mefus eich hun' leol.

Mae'r grŵp wedi ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr am fwydydd iach, maethlon ac maent hefyd wedi cynyddu eu hyder, wedi cymdeithasu ag eraill ac wedi gwneud ffrindiau newydd. Roedd pawb wedi mwynhau cymryd rhan yn y rhaglen ac mae rhai o'r bobl ifanc yn bwriadu cael swydd yn y diwydiant lletygarwch ar ôl canfod brwdfrydedd o'r newydd am goginio.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Horizons helpu pobl ifanc, ffoniwch 01639 763030 neu e-bostiwch YouthServiceEmployability@npt.gov.uk

Chwiliwch am Gyflogadwyedd CNPT/Gwasanaeth Ieuenctid CNPT i ddod o hyd i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Gwasanaeth a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cyflogadwyedd CNPT, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

#CFfGDU

Grwp coginio Grwp coginio