Remoo Mortgages yn recriwtio prentisiaid i dyfu'r busnes
Mae Tyler Morgan-Maggs 24 oed, Lucie Read 18 oed a Sophie Price 16 oed i gyd yn ymgymryd â phrentisiaethau Gweinyddu Busnes o lefelau 2 i 4 yn Remoo Mortgages yng Nghastell-nedd. Mae busnes Remoo Mortgages a ddechreuwyd gan y tîm gŵr a gwraig, Ceri a Sarah Evans, wedi tyfu'n gyflym, gan greu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy. Mae gwerthoedd busnes Remoo Mortgages yn amlygu cefnogaeth gydol oes i gwsmeriaid ac mae'r gwerthoedd hyn yn cael eu cyfleu i'r bobl y maent yn eu cyflogi.
Mae cyflogi pobl y mae eu gwerthoedd cwmni yr un peth â rhai Ceri a Sarah yn hanfodol bwysig i ddyfodol Remoo Mortgages. Mae dod o hyd i bobl â'r gwerthoedd hynny a’r profiad gwaith a'r sgiliau perthnasol wedi bod yn anodd iawn. Cafodd Ceri a Sarah syniad ynghylch y posibilrwydd o gyflogi prentisiaid, pobl y gallant eu hyfforddi a'u mowldio i fod yn weithwyr gwych. Eu hamgyffrediad cychwynnol, fel llawer o gyflogwyr, oedd bod prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc sy'n dysgu crefftau fel gosod brics a phlymio. Wrth siarad â Chydlynydd Prentisiaethau Cyflogadwyedd CNPT, dysgon nhw fod y cynllun prentisiaethau'n cefnogi ystod eang o rolau a oedd ar gael i bobl ifanc a phobl aeddfed. Sefydlwyd tair prentisiaeth Gweinyddu Busnes ac ar ôl cyfres o sesiynau cyfweld, croesawyd Tyler, Lucie a Sophie i dîm Remoo Mortgages.
Meddai Sarah Evans, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, "Mae ein hymroddiad i gefnogaeth tymor hir empathig ar gyfer ein cwsmeriaid yn golygu bod yn rhaid i ni gael staff sy'n poeni am bobl. Rydym yn aml yn gweithio gyda phobl a chanddynt incymau cymhleth, credyd andwyol, sy'n hunangyflogedig neu'n gyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig. Mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt ac mae angen i'n staff deimlo balchder wrth ei rhoi. Mae prentisiaethau'n wych i'r cyflogwr a'r staff. Mae staff yn cael hyfforddiant ychwanegol a chymwysterau cydnabyddedig a gall cyflogwyr gymryd yr amser i hyfforddi'r prentisiaid yn y sgiliau a'r wybodaeth benodol sydd eu hangen i gyflawni eu rolau. Mae'n fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer y gweithiwr a'r cyflogwr. Mae dynion yn cael lle blaenllaw yn y diwydiant hwn felly mae'n wych ein bod yn gallu dod â menywod i mewn i'r busnes nad oes ganddynt brofiad yn y diwydiant, eu hyfforddi a threfnu eu bod yn ennill cymwysterau."
Mae Tyler, Lucie a Sophie i gyd yn mwynhau eu swyddi gyda Remoo Mortgages a byddent yn llwyr argymell prentisiaethau i unrhyw berson sy'n chwilio am yrfa newydd.
Gwasanaeth a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cyflogadwyedd CNPT, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
I gael gwybodaeth am sut y gall Cyflogadwyedd CNPT helpu pobl i gael hyfforddiant a phrofiad gwaith wedi'u hariannu, neu os ydych yn gyflogwr sy'n chwilio am staff newydd, ffoniwch 01639 684250.
Chwilio am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cyflogadwyedd CNPT
#CronfaFfyniantGyffredinyDU