Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Taylor, disgybl blwyddyn 10 o Ysgol Bro Dur yn dysgu sut i weithio mewn campfa ar ôl iddo gael lleoliad gwaith yng nghampfa Unit 9

Fel paffiwr amatur brwd, mae gan Taylor lawer o wybodaeth am hyfforddiant ffitrwydd. Pan ddaeth lleoliad gwaith yng nghampfa Unit 9 ar gael, doedd dim amheuaeth ganddo fod hwn yn gyfle gwych iddo ddysgu sut i weithio mewn campfa, fel dewis gyrfa posib ar ei gyfer pan fydd yn gadael yr ysgol.

Ymgymerodd Taylor â nifer o ddyletswyddau gan gynnwys helpu mewn dosbarth ffitrwydd, rhoi cyfarwyddiadau ynghylch sut i godi pwysau a glanhau cyfarpar.

Meddai Taylor, "Mae wedi bod yn wych, mae'r tîm yma wedi bod mor gyfeillgar ac rwyf wedi dysgu sgiliau a allai fy helpu i ddod yn hyfforddwr personol."

Trefnwyd lleoliad gwaith Taylor gan Gyflogadwyedd CNPT, gwasanaeth a ddarperir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch neu e-bostiwch Nicol Walker, Cyflogadwyedd CNPT 07890893534 n.walker@npt.gov.uk

Gym 3 Gym 3