Wythnos o brofiad gwaith adeiladol i Ioan a Lucas
Mae myfyrwyr Bro Dur, Ioan Clarke a Lucas Davies, 15 oed wedi cael wythnos werthfawr o brofiad gwaith diolch i'r cwmni CIWB Construction a Chyflogadwyedd CNPT, cwmni o Gastell-nedd Port Talbot.
Gan weithio ar y safle, cefnogi'r plastrwyr a chyflawni dyletswyddau adeiladu cyffredinol, mae'r ddau wedi cael profiad gwaith defnyddiol ac wedi dysgu ychydig o sgiliau newydd. Bellach mae gan Ioan a Lucas syniad da o sut beth yw gweithio ym maes adeiladu a’r ddisgyblaeth sydd ei hangen i weithredu mewn cyflogaeth lawn amser. Maen nhw wedi mwynhau'r profiad ac yn teimlo efallai bod swydd ym maes adeiladu yn rhywbeth y bydden nhw'n ei ystyried ond y bydden nhw'n cadw eu hopsiynau ar agor i archwilio cyfleoedd eraill.
Mae CIWB Construction wedi cefnogi pobl ifanc o Gastell-nedd Port Talbot gyda lleoliadau gwaith ers dechrau rhaglen lleoliad Cyflogadwyedd CNPT.
Dywedodd Jamie Davies, CIWB Construction, "Mae cefnogi myfyrwyr profiad gwaith yn y diwydiant adeiladu nid yn unig yn helpu i adeiladu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus ond hefyd yn sicrhau bod y sector yn ffynnu gydag arloesedd, diogelwch ac arbenigedd, gan feithrin gweithlu a fydd yn cwrdd â heriau prosiectau’r dyfodol."
Mae Cyflogadwyedd CNPT yn diolch i CIWB am eu cefnogaeth barhaus gan ddarparu cyfleoedd datblygu a phrofiad gwaith ymarferol i fyfyrwyr CNPT.
Trefnwyd lleoliadau gwaith Ioan a Lucas gan Gyflogadwyedd CNPT, gwasanaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch neu e-bostiwch Nicol Walker
01639 684250/n.walker@npt.gov.uk

