Grant Hwbiau Cynnes 2025-2026
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i helpu sefydliadau i ddarparu mannau cynnes/man cyhoeddus neu adeiladau y gall pobl eu defnyddio i gadw'n gynnes ac yn ddiogel.
Mae pob gofod cynnes yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau. Gall hyn gynnwys:
- mynediad Wi-Fi
- cyfleusterau toiled
- diodydd
Cymhwysedd
- Sefydliadau elusennol neu wirfoddol
- Y rheini ag amcanion elusennol
- Sefydliadau nid er elw preifat
Meini prawf y gronfa
Pwrpas y cyllid yw cefnogi darpariaeth mannau diogel a chlyd yn y gymuned leol.
Dylid defnyddio'r cyllid i wneud y canlynol:
- cefnogi Canolfannau/Mannau Clyd
- cefnogi'r bobl sy'n eu defnyddio
- ar gyfer unrhyw dreuliau ychwanegol sy'n berthnasol i'ch Canolfan/Man Clyd
Enghreifftiau
Gallwch wario'r cyllid ar bethau fel:
- darparu lluniaeth, byrbrydau ac os yw'n berthnasol i'r lleoliad, prydau bwyd mwy sylweddol
- treuliau ychwanegol sy'n berthnasol i ehangu oriau agor cyfleusterau presennol
- cyfraniadau at wresogi a goleuo os yw'r cyfleusterau'n cael eu hagor yn arbennig
- costau ychwanegol sy'n berthnasol i gostau glanhau neu waredu gwastraff (er enghraifft, neuaddau cymunedol)
- cyfleusterau ar gyfer gwefru ffonau symudol/cyfarpar TG
- eitemau bach fel tegellau, cwpanau, platiau etc.
- eitemau/gweithgareddau cyfoethogi
- cludiant i Ganolfannau Clyd ac oddi yno – yn dibynnu ar angen lleol
- costau gwirfoddolwyr
- cynyddu ymwybyddiaeth/hyrwyddo Canolfannau Clyd
Nid rhestr hollgynhwysfawr yw hon.
Lefelau ariannu
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyfanswm o £80,842 i gefnogi Canolfannau Clyd yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Awgrymwn y dylid gwneud ceisiadau am hyd at £1,600.
Byddwn yn asesu pob cais yn ôl ei rinweddau ac yng nghyd-destun darpariaeth ar draws Castell-nedd Port Talbot.
Sylwer y bydd angen gwario unrhyw arian a ddyrennir erbyn 31 Mawrth 2026.
Meini prawf y cais a'r asesiad
Byddwn yn asesu pob cais yn erbyn y meini prawf isod. Bydd angen i chi ddangos y canlynol:
- statws sefydliadol/amcanion elusennol
- bod y cyllid yn mynd i'r afael â'r meini prawf ariannu
- nifer y buddiolwyr
- hygyrchedd a chyfleoedd cyfartal
- dadansoddiad ariannol llawn o'r arian y cyflwynwyd cais amdano
Gall eich cais fod yn anghymwys neu gellir ei oedi os nad ydych yn darparu'r holl wybodaeth ofynnol.
Gwneud cais
Dychwelwch y ffurflen gais wedi'i chwblhau a'r holl ddogfennaeth ategol i'r cyfeiriad e-bost canlynol: communityfoodconnections@npt.gov.uk.
Llawrlwytho