Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Etholaethau'r Senedd

Mae Cymru wedi'i rhannu'n 16 etholaeth newydd ar gyfer yr etholiad hwn.

Bydd gan bob etholaeth chwe aelod etholedig, gan wneud cyfanswm o 96 aelod wedi'u hethol i'r Senedd yn lle 60 fel sydd ganddi nawr.

I drigolion Castell-nedd Port Talbot, mae hyn yn golygu y bydd y fwrdeistref sirol yn cael ei chynnwys gan ddwy etholaeth newydd:

  • Afan Ogwr Rhondda - wedi'i chreu o etholaethau Seneddol y DU Aberafan Maesteg a Rhondda ac Ogwr.
  • Brycheiniog Tawe Nedd - wedi'i chreu o etholaethau Seneddol y DU Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe a Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe.

Dod o hyd i'ch etholaeth

I ddod o hyd i'ch etholaeth, ewch i etholaeth.senedd.cymru

Rhannu eich Adborth