Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Hysbysiad o Etholiad - Etholiad Senedd Cymru ar gyfer Etholaeth Afan Ogwr Rhonnda

  1. Caiff etholiad ei gynnal ar gyfer Aelodau i wasanaethu yn y Senedd ar gyfer etholaeth Afan Ogwr Rhondda.
  2. Gellir cael papurau enwebu gan swyddfa’r Swyddog Canlyniadau, Gwasanaethau Etholiadol, Llawr Gyntaf, Ystafell 234, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ neu’n electronig drwy enwebiadau@npt.gov.uk o ddydd Iau 26 Mawrth 2026 tan 4:00pm ddydd Iau 9 Ebrill 2026.
  3. Mae’n rhaid cyflwyno papurau enwebu i'r Swyddog Canlyniadau yn Gwasanaethau Etholiadol, Llawr Gyntaf, Ystafell 234, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ  rhwng 9.00am a 5:00pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn (ac eithrio gwyliau’r banc), neu’n electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad o ddanfoniad electronig ar y dudalen nesaf, ond dim hwyrach na 4pm ar ddydd Iau 9 Ebrill 2026.
  4. Os ymleddir yr etholiad, cynhelir y bleidlais ar ddydd Iau 7 Mai 2026.
  5. Mae’n rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol erbyn canol nos ar ddydd Llun 20 Ebrill 2026. Gellir cyflwyno cais ar-lein.
  6. Gellir talu’r ernes o £500 fesul ymgeisydd unigol, neu’r ernes o £500 am yr ymgeisydd cyntaf ar restr plaid, a £200 am bob un o’r pum ymgeisydd nesaf ar y rhestr plaid. Gellir talu'r blaendal trwy arian cyfreithiol (arian parod), siec drafft banciwr neu trwy drosglwyddiad banc (gyda rhybudd ymlaen llaw).
  7. Mae’n rhaid i geisiadau, newidiadau neu achosion o ganslo pleidleisiau post gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol erbyn 5pm ar ddydd Mawrth 21 Ebrill 2026.
  8. Mae’n rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol yn erbyn 5pm ar ddydd Mawrth 28 Ebrilll 2026.
  9. Mae’n rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy mewn argyfwng yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol yn erbyn 5pm ar ddydd Iau 7 Mai 2026.

Argraffwyd a chyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau Etholaeth
Gwasanaethau Etholiadol, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.