Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Pleidleisio yn etholiad y Senedd

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, gallwch ddefnyddio eich llais i siapio dyfodol Cymru trwy bleidleisio yn etholiadau'r Senedd a lleol.

Er mwyn pleidleisio yn etholiad y Senedd rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio cyn dydd Mercher 20 Ebrill 2026.

I bleidleisio yn etholiad y Senedd, gallwch ddod o hyd i rhagor o wybodaeth ar:

Sut mae’r system bleidleisio’n gweithio

Mae’r ffordd rydych chi’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd wedi newid.

Byddwch nawr yn pleidleisio gan ddefnyddio system bleidleisio o’r enw ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’ i ethol Aelodau’r Senedd.
Mae hwn yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol.

Mae hyn yn golygu bod nifer y seddi y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu hennil yn adlewyrchu canran y pleidleisiau a gawsant.

Bydd y papur pleidleisio yn ddangos rhestr o ymgeiswyr ar gyfer pob plaid wleidyddol ac unrhyw ymgeiswyr annibynnol.

Y pleidiau sy’n dewis y drefn y mae ymgeiswyr yn ymddangos ar eu rhestr.

Mae’r rhestrau yn ‘gaeedig’ – mae hyn yn golygu na all pleidleiswyr newid trefn yr ymgeiswyr. Y bobl ar frig y rhestr sy’n cael eu hethol yn gyntaf.

Sut fydd ymgeiswyr yn cael eu hethol

Y system a ddefnyddir I ddyrannu seddi yn y Senedd yw’r un system a ddefnyddiwyd i ddyrannu seddi rhanbarthol yn etholiadau blaenorol Cynulliad Cymru.

Po fwyaf o bleidleisiau y mae plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol yn eu cael, y mwyaf o seddi y byddant yn eu hennil.

Er enghraifft, os bydd plaid wleidyddol yn ennill tair sedd, bydd y tri pherson ar frig eu rhestr yn cael eu hethol I’r seddi hynny. Bydd 96 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol yn gyfan gwbl.

Cynhelir y cyfrif o flaen arsylwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol ac ymgeiswyr er mwyn sicrhau ei uniondeb, fel bod pawb yn fodlon bod y canlyniad terfynol yn adlewyrchu’r pleidleisiau gwirioneddol a fwriwyd.

Am ddisgrifiad mwy manwl o sut mae pleidleisiau’n cael eu dyrannu, ewch i electoralcommission.org.uk/cy/senedd-pleidleisio

Y cyfrif

Cynhelir y cyfrif o flaen arsylwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol ac ymgeiswyr er mwyn sicrhau ei uniondeb. Mae hyn fel bod pawb yn fodlon bod y canlyniad terfynol yn adlewyrchu'r pleidleisiau gwirioneddol a fwriwyd.

Rhannu eich Adborth