Pwerau a dyletswyddau'r Senedd
Yn yr etholiad hwn, byddwch yn pleidleisio dros bwy rydych chi eisiau i’ch cynrychioli yn Senedd Cymru, a elwir yn gyffredin yn ‘y Senedd’.
Mae gan y Senedd bwerau I ddeddfu dros Gymru mewn ystod o feysydd, gan gynnwys
- iechyd
- yr economi
- addysg
- tai
- trafnidiaeth
- yr iaith Gymraeg
- a rhai trethi
Am ragor o wybodaeth am y Senedd, ewch i senedd.cymru/etholiad