Pryd y cynhelir etholiadau
Etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Caiff cynghorwyr eu hethol unwaith bob pum blynedd yn etholiadau'r cyngor. Mae 60 sedd Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer 34 o wardiau etholiadol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd yr etholiad Cyngor Bwrdeistref Sirol nesa Mai 2027.
Etholiadau Cynghorau Cymuned/Tref
Caiff cynghorwyr eu hethol unwaith bob pum blynedd yn etholiadau'r cyngor. Mae 250 sedd ar gyfer 52 Cymuned/Ward Gymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd yr etholiad Cynghorau Cymuned/Tref nesa Mai 2027.
Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
Yr etholaethau seneddol sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ardal Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw'r canlynol:
Aberafan Maesteg
Gan gynnwys wardiau Pen-y-bont ar Ogwr sef:
- Caerau
- Corneli
- Llangynwyd
- Dwyrain Maesteg
- Gorllewin Maesteg
- Pîl
Castell-nedd a Dwyrain Abertawe
Gan gynnwys wardiau Abertawe sef:
- Bonymaen
- Clydach
- Llansamlet
- Sant Thomas
Brycheiniog Maesyfed a Chwm Tawe
Mae saith ward etholiadol yn ardal Castell-nedd Port Talbot sy'n ffurfio Pontardawe, Dyffryn Tawe Uchaf a Dyffryn Aman hefyd wedi symud i etholaeth newydd Brycheiniog Maesyfed a Chwm Tawe.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Alltwen
- Cwmllynfell ac Ystalyfera
- Godre’rgraig
- Gwaun-Cae-Gurwen a Brynaman Isaf
- Pontardawe
- Rhos
- Trebanos
Etholiadau'r Senedd
Ar hyn o bryd, mae aelodau'r Senedd yn cael eu hethol unwaith bob pum mlynedd, ond o 2026 ymlaen bydd hyn yn newid i bob pedair blynedd.
O fis Mai 2026 ymlaen, bydd etholaethau'r Senedd sy'n cwmpasu ardal cyngor Castell-nedd Port Talbot fel a ganlyn:
Afan Ogwr Rhondda
wedi'i wneud o etholaethau Seneddol y DU wedi'u paru:
- Aberafan Maesteg
- Rhondda ac Ogwr
Brycheiniog Tawe Nedd
wedi'i wneud o etholaethau Seneddol y DU wedi’u paru:
- Brycheiniog Maesyfed a Chwm Tawe
- Castell-nedd a Dwyrain Abertawe
Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Caiff Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu eu hethol unwaith bob pedair blynedd. Mae Castell-nedd Port Talbot yn dod o fewn Ardal Heddlu De Cymru ar gyfer yr etholiadau hyn.
Bydd tymor swydd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu presennol yn dod i ben ddechrau mis Mai 2028.
Is-etholiad
Gall is-etholiad gael ei gynnal ar unrhyw adeg os bydd swydd wag achlysurol yn sgîl, er enghraifft, ymddeoliad aelod etholedig.