Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Copïau o dystysgrifau

Trosolwg

Gallwch gael copi o dystysgrif geni, marwolaeth neu briodas a gofrestrwyd yng Nghymru neu Loegr ers 1 Gorffennaf 1837. Mae'r dystysgrif ar gael gan y Swyddfa Gofrestru ar gyfer yr ardal lle digwyddodd y geni, y farwolaeth neu'r briodas.

 

Mae tystysgrifau wedi'u diogelu gan Hawlfraint y Goron. Ni ddylid gwneud llungopïau ohonynt at ddibenion swyddogol.

Ffioedd

Ffioedd cais

Cais safonol am dystysgrif geni, marwolaeth neu briodas - £12.50. Cyhoeddir o fewn 7 diwrnod gwaith ar ôl derbyn taliad.

Cais blaenoriaeth am dystysgrif geni, marwolaeth neu briodas - £38.50.   Casglu ar yr un diwrnod.

Costau trin

Post Dosbarth Cyntaf y Post Brenhinol (Royal Mail) - £2.50.

  • Opsiwn dosbarthu safonol
  • Nid yw'n cynnwys cost amnewid tystysgrifau a gollir wrth eu cludo

Dosbarthu Diwrnod Nesaf wedi'i Lofnodi - £6.50

  • Opsiwn dosbarthu premiwm
  • Yn cynnwys cost amnewid tystysgrifau a gollir wrth eu cludo

Casglu o Swyddfa Gofrestru Castell-nedd Port Talbot

  • Dim tâl

Gwneud cais am dystysgrif

Ceisiadau ar-lein

Gall cwsmeriaid nawr ddefnyddio gwasanaeth cais am dystysgrif ar-lein 'chwilio a chwblhau'. Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i gwsmeriaid chwilio am y manylion cywir cyn cwblhau'r broses o wneud cais am dystysgrif.

 

Ceisiadau wyneb yn wyneb

Gallwch wneud cais yn bersonol yn y Swyddfa Gofrestru (Nid oes angen apwyntiad).

Yn y Swyddfa Gofrestru, gofynnir i chi lenwi ffurflen gais fer.

Tystysgrifau geni

Tystysgrif geni ar gyfer rhywun sydd wedi'i fabwysiadu

Os yw'r dystysgrif geni ar gyfer rhywun sydd wedi'i fabwysiadu, dylid gwneud y cais i:

Cofrestr Plant Mabwysiedig
ONS
Smedley Hydro
Trafalgar Road
Southport
PR8 2HH

Ffôn: 0300 123 1837

Tystysgrifau marwolaeth

Tystysgrifau priodas

Cymorth a chyngor

Os oes angen rhagor o help neu gyngor arnoch, cysylltwch â ni a byddwn yn falch o'ch cynorthwyo.

 

Nol i ben y dudalen