Genedigaethau
Cofrestru genedigaeth
Rhaid cofrestru genedigaeth o fewn 42 diwrnod i enedigaeth y babi. Rhaid ei chofrestru yn yr ardal gofrestru lle digwyddodd yr enedigaeth.
Os na allwch ymweld â Swyddfa Gofrestru'r ardal honno, gallwch fynd i unrhyw Swyddfa Gofrestru arall yng Nghymru a Lloegr. Yn yr achos hwn, bydd datganiad geni yn cael ei gymryd a'i anfon at y Swyddfa Gofrestru yn yr ardal lle ganwyd eich babi.
Sut i gofrestru genedigaeth
Er mwyn cofrestru genedigaeth, mae angen gwneud apwyntiad i ymweld â Swyddfa Gofrestru Castell-nedd Port Talbot. E-bostiwch registrars@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 760021 i drefnu apwyntiad.
Pwy all gofrestru genedigaeth
Os oedd y rhieni yn briod â'i gilydd adeg geni'r plentyn, gall y fam neu'r tad gofrestru'r geni.
Fodd bynnag, os nad oedd y rhieni'n briod â'i gilydd adeg geni'r plentyn, dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y gellir cynnwys manylion y tad yn y gofrestr:
- Pan fydd y fam a'r tad yn mynychu gyda'i gilydd. Er mwyn i dad di-briod gael cyfrifoldeb cyfartal dros y plentyn, rhaid i'r ddau riant gofrestru'r geni gyda'i gilydd.
- Os na all y tad fynychu gyda'r fam, gall wneud Datganiad Statudol yn cadarnhau mai ef yw'r tad, a bydd y fam yn cyflwyno'r datganiad hwn i'r cofrestrydd.
- Os na all y fam fynychu gyda'r tad, gall wneud Datganiad Statudol yn cadarnhau enw'r tad, a bydd y tad yn cyflwyno'r datganiad hwn i'r cofrestrydd.
- Os yw un o'r rhieni wedi cael gorchymyn llys perthnasol, dylid cyflwyno hwn i'r cofrestrydd.
Tystysgrifau
Mae tystysgrif ar gael gan y cofrestrydd hefyd sy'n cynnwys manylion y rhieni ac sy'n gopi llawn o'r cofnod yn y gofrestr.
Codir tâl am y dystysgrif hon, a bydd y cofrestrydd yn rhoi gwybod i chi am y ffi gyfredol.
Cofrestru genedigaethau'n ddwyieithog
Gellir cofrestru genedigaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg (ond nid yn Gymraeg yn unig).
Ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ymlaen llaw ar 01639 760021 i sicrhau bod cofrestrydd sy'n siarad Cymraeg ar gael, gan nad yw pob un o'n cofrestryddion yn siarad Cymraeg.
Rhaid i chi hefyd allu siarad Cymraeg er mwyn cofrestru'r geni'n ddwyieithog.
Tystiolaeth ategol
O 9 Tachwedd 2026, bydd yn rhaid i'r rhiant neu'r rhieni sy'n mynychu i gofrestru genedigaeth eu plentyn ddarparu tystiolaeth adnabod ar gyfer pob rhiant.
- Pasbort
- Trwydded Yrru'r DU - (Llawn neu Dros Dro)
- Tystysgrif Geni'r DU
- Tystysgrif Fabwysiadu'r DU
- Dogfen Mewnfudo Fiometrig y DU
- Dogfen Deithio Ddilys y DU
- Bil Cyfleustodau - Bil trydan, nwy, dŵr, ffôn llinell dir neu fand eang (nid yw biliau ffôn symudol yn dderbyniol)
- Datganiad Treth Gyngor - Unrhyw ohebiaeth Treth Gyngor a gyhoeddwyd gan awdurdod lleol
- Datganiad Banc, Cymdeithas Adeiladu neu Forgais - Y datganiad mwyaf diweddar
- Llythyr gan y GIG - Llythyr apwyntiad, llythyr atgyfeirio neu lythyr rhyddhau, neu Gofnod Iechyd Personol y Plentyn ("Llyfr Coch")
- Tystysgrif Priodas neu Bartneriaeth Sifil - Tystysgrif Priodas neu Bartneriaeth Sifil y DU (copi papur)
- Tystysgrif Priodas neu Bartneriaeth Sifil Dramor - Gellir cyflwyno hwn fel dogfen bapur neu gopi digidol
- Llythyr gan Ysgol neu Goleg - Dogfen swyddogol a gyhoeddwyd gan ysgol, coleg neu sefydliad addysgol