Mynwentydd
Mae gennym 9 mynwent ac un amlosgfa yn y mannau canlynol:
- Y Cymer
- Goetre
- Margam
- Ynysmaerdy
- Cwmbedd (Giants Grave)
- Onllwyn
- Llanilltud Fach
- Carmel
- Godre’r Graig
Mae’r Swyddfa Fynwentydd yn y Ganolfan Ymateb i Wasanaethau, y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan, Castell-nedd SA11 2GG lle gall staff gynorthwyo teuluoedd mewn profedigaeth, Trefnwyr Angladdau a Saer Maen. Y rhif ffôn yw 01639 686121/ 686122/ 686147 ac mae ar agor rhwng Dydd Llun i Ddydd Iau 8:45yb - 4:00yp Dydd Gwener 8:45yb - 3:30yp.
Mae’r cyngor yn cydnabod anghenion y rhai mewn profedigaeth drwy ddarparu gwasanaeth mynwentydd urddasol a sensitif sy’n cynnig cymaint o ddewis â phosib i bobl fynegi eu galar yn y ffordd sydd fwyaf priodol iddynt. Rydym yn cyflawni hyn drwy wasanaeth cynhwysfawr sy’n:
- Cynnal tiroedd mynwentydd i roi golwg bleserus phriodol
- Rhoi ymateb effeithlon a chywir ar gyfer trefniadau claddu
- Sicrhau bod yr holl adeiladau o fewn tiroedd y fynwent yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda
- Darparu gwasanaeth parchus ar gyfer claddedigaethau
Mae beddau newydd ar gael ym mynwentydd Margam, y Cymer, Llanilltud Fach, Ynysymaerdy, Godre’r-graig a Charmel. Yn amodol ar le, gall aelodau’r teulu hefyd gael eu claddu mewn beddau presennol. Mae ardaloedd wedi’u neilltuo ym mhob mynwent ar gyfer claddu llwch amlosgi gyda’r opsiwn i osod llechi coffa. Mae gan Mynwent Margam Ardd Plant Coffa.
Claddedigaethau Mwslimaidd
Mae ardaloedd wedi’u neilltuo ar gyfer claddedigaethau Mwslimaidd ym Mynwentydd Llanilltud Fach a Margam.
Manylion trefnu claddedigaeth
Mae’r Swyddfa Fynwentydd yn gyfrifol am dderbyn manylion archebu gan y Trefnwyr Angladdau neu deuluoedd a hysbysu’r staff gweithrediadau o’r trefniadau. Lle bo’n bosib, gellir cynnal claddedigaeth 3 diwrnod gwaith clir ar ôl darparu’r holl wybodaeth berthnasol.
Mae Trefnwyr Angladdau’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir yn gywir a bod hawl gan yr ymgeisydd ail-agor bedd. Os yw cofeb i’w symud, bydd y Trefnwr Angladdau’n rhoi gwybod i’r Saer Maen a rhaid symud y gofeb cyn gynted â phosib ar ôl trefnu.
Rhaid derbyn yr hysbysiad claddu gan y Swyddfa Fynwentydd o leiaf 48 awr cyn claddu ynghyd â thaliad llawn. Pan brynir bedd neu lain amlosgi newydd, bydd yr ymgeisydd yn cael ei nodi fel perchennog hawliau’r bedd/llain a bydd yr Hawliau Echgynhwysol perthnasol yn cael eu hanfon at y person hwnnw. Mae’n hanfodol sicrhau bod yr aelod cywir o’r teulu’n cyflwyno cais, oherwydd wedi hynny, bydd ganddynt reolaeth gyfreithiol a chyfrifoldeb am gladdedigaethau yn y bedd a’r cofebion a roddir arni.
Rheolau ac arweiniad mynwent
Mae rheoli mynwentydd y cyngor yn cydymffurfio â gofynion Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Gorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977. Mae’r offerynnau statudol hyn yn nodi pwerau a dyletswyddau’r awdurdod claddu. Mae gan y cyngor ei Reolau a Rheoliadau Mynwentydd ei hun. I gael copi o'r Rheolau a'r Rheoliadau, cysylltwch â'r Swyddfa Mynwentydd. Staff y gwasanaeth claddu sy’n torri beddau ac yn paratoi ar gyfer claddedigaethau a gwneir hyn gyda pharch, effeithlonrwydd, diogelwch ac mewn ffordd gost-effeithiol.
Claddu eirch
Mae Trefnwyr Angladdau neu deuluoedd yn gofyn am ddyfnder bedd ar gyfer claddu ar adeg trefnu. Gwneir pob ymdrech i fodloni’r cais, er nad yw bob amser yn bosib cyflawni’r dyfnder dymunol oherwydd amodau tir gwael. Bydd teuluoedd yn cael gwybod am hyn pan na ellir cyflawni’r dyfnder y gofynnwyd amdano.
Mae’r gwasanaeth mynwentydd yn gweithredu ar y sail bod mesuriadau arch a geir gan y Trefnwyr Angladdau’n caniatáu am unrhyw ymwthio allan megis dolenni neu addurniadau. Yna, gwneir lwfans mewn dimensiynau gan weithwyr y fynwent er mwyn i’r arch gael ei gosod yn y bedd. Mae pob bedd yn cael ei gefnogi gan offer diogelu arbenigol a gellir ei ddefnyddio gydag arch ei huchafswm hyd yw 1980mm (6’6”). Mae maint eirch y tu hwnt i’r dimensiynau hyn yn gofyn am sylw arbenigol ac amser ychwanegol i baratoi’r bedd.
Weithiau, ceir ceisiadau i ail-agor beddau lle na wyddys beth yw’r dyfnder sy’n weddill. Mewn achosion o’r fath, efallai bydd angen profi dyfnder y bedd i weld a oes digon o ddyfnder ar gael. Bydd yr ymgeisydd neu’r Trefnwr Angladdau’n gyfrifol am benodi Saer Maen i symud unrhyw gofeb sydd ar y bedd.
Rhoddir matiau gwair o amgylch y bedd i roi ymddangosiad pleserus i’r sawl sy’n dod i’r angladd.
Llwch a amlosgwyd
Mae rhannau ym mhob mynwent ar gyfer claddu llwch. Mae pob llain yn llai na maint bedd llawn a gall gynnwys 4 set o lwch. Gall llwch a amlosgwyd hefyd gael ei gladdu mewn beddau maint llawn. Gall beddau maint llawn gynnwys nifer o lychau gwahanol ond dylid meddwl am y lle cyfyngedig ar gyfer arysgrifau ar gofebion.
Gwasgaru llwch
Mae gwasgaru llwch ym mynwentydd y cyngor yn gofyn am hysbysiad ffurfiol a chymeradwyaeth perchennog hawliau’r bedd. Codir ffi am y gwasanaeth hwn. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y cyngor i gynnal cofnodion yr holl gladdedigaethau gan gynnwys gwasgaru llwch.
Caniatáu hawliau echgynhwysol claddu a pherchnogaeth beddau a lleiniau amlosgi
Mae prynu Hawliau Claddu Echgynhwysol i fedd neu lain amlosgi yn rhoi hawl i’r perchennog bennu claddedigaethau yn y dyfodol ac i osod cofeb ar y bedd neu’r llain amlosgi (gweler y dudalen goffa). Nid yw’r hawliau’n golygu bod gennych unrhyw berchnogaeth ar y tir sy’n parhau gyda’r cyngor. Pan fydd perchennog y grant yn cael ei gladdu yn y bedd, gall yr hawl gael ei drosglwyddo i berson arall drwy Drosglwyddiad neu Ddatganiad Statudol yn amodol ar gytundeb holl aelodau’r teulu y mae ganddynt hawl i berchen yr hawliau a drosglwyddwyd.
Cofebion
Gall cofebion chwarae rhan bwysig yn y broses alaru, sy’n ganolbwynt wrth ymweld ac yn atgof parhaus o’r ymadawedig. Mae amrywiaeth o gofebion o’r fath wedi’u nodi yn Rheolau a Rheoliadau Mynwent y cyngor. I gael copi o'r Rheolau a'r Rheoliadau, cysylltwch â'r Swyddfa Mynwentydd.
Ceisiadau trwydded am gofebion
Rhaid i’r Swyddfa Fynwentydd gymeradwyo pob cofeb newydd ac unrhyw newidiadau i gofebion presennol cyn dechrau ar unrhyw waith. Rhaid i geisiadau am drwyddedau gynnwys manylion dyluniadau, dimensiynau a geiriad.
Profion cofebion mewn mynwentydd a rheolir gan y Cyngor
Mae polisi diogelwch cofebion sy'n ffurfioli'r gweithdrefnau gweithio cyfredol ar gyfer profi diogelwch cerrig beddau, henebion a chofebion mynwentydd eraill wedi'i sefydlu.
Y Swyddfa Fynwentydd
- Canolfan Ymateb Gwasanaethau, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan , Castell-nedd, SA11 2GG
- Ffon: (01639) 686121 / 686122 / 686147
- E-bost: cemeteries@npt.gov.uk
- Oriau Swyddfa: Dydd Llun i Ddydd Iau 8:45yb - 4:00yp Dydd Gwener 8:45yb - 3:30yp.