Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gofyn am gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol

Trosolwg

Cysylltwch â ni os ydych:

  • yn chwilio am arweiniad neu wybodaeth
  • angen cymorth i fyw'n annibynnol
  • am wneud atgyfeiriad
  • yn pryderu am ddiogelwch a llesiant oedolyn

Sut gallwn helpu

Gallwn ddarparu:

  • gwybodaeth, cyngor a chymorth
  • cymorth ataliol ac ymyrraeth gynnar
  • arweiniad i helpu pobl i fyw'n annibynnol ac i gadw'n iach
  • gwybodaeth am wasanaethau cymunedol a'r sector gwirfoddol a'ch cyfeirio atynt
  • cymorth a gwybodaeth i ofalwyr
  • atgyfeiriadau ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion
  • atgyfeiriadau diogelu
  • cyngor a chymorth i weithwyr proffesiynol sy'n gwneud atgyfeiriadau
  • mynediad at y gwasanaethau sy'n diwallu angheni

Cysylltwch â ni

Gall unrhyw un sy'n pryderu am lesiant neu ddiogelwch oedolyn gysylltu â ni.

Gallwch hefyd ein ffonio ar 01639 686802.

Mae'r llinellau ffôn ar agor:

  • 8.30am i 5pm, dydd Llun i ddydd Iau
  • 8.30am i 4.30pm, dydd Gwener
Nol i ben y dudalen