Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

CNPT Diogel ac Iach

Yn anffodus, nid ydym bellach yn gallu derbyn atgyfeiriadau ar gyfer cyfeillio gan fod y Gwasanaeth Cyfeillio Diogel ac Iach wedi cau.

Am opsiynau cymorth amgen, gwnewch eich ymholiad i GGG Castell-nedd Port Talbot am gymorth yn eich ardal.

Gwasanaeth Cyfeillio

Mae ein cyfeillwyr gwirfoddol yno i greu partneriaethau llwyddiannus, sy’n llawn ymddiriedaeth, gyda phobl sy’n unig iawn ac sy’n brin iawn o gyswllt cymdeithasol ystyrlon â phobl eraill.

Gall cyfeilliwr ddarparu rhywfaint o gwmpeini neu eich helpu i deimlo’n fwy hyderus am ffurfio eich perthynas eich hunan i’r dyfodol.

Beth am ddod yn wirfoddolwr Cyfeillio

Allwch chi sbario awr yr wythnos i wneud gwahaniaeth enfawr i rywun yn eich cymuned?