Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg
Mae'r cynllun hwn yn cefnogi pobl a chanddynt angen asesedig sydd am gael help i fyw yn eu cymuned. Rydym yn cydweddu pobl y mae angen cefnogaeth arnynt gyda Gofalwyr Cysylltu Bywydau proffesiynol a chymeradwy. Mae'r gofalwyr yn darparu tai a chymorth o fewn eu cartrefi i'r bobl y mae angen cefnogaeth arnynt. Mae hyn yn aml yn arwain at ddatblygu rhwydweithiau ehangach o gefnogaeth.
Mae'r gwasanaeth yn ddewis amgen i ofal preswyl. Mae'n addas ar gyfer pobl y mae angen y canlynol arnynt:
- tai parhaol neu dros dro
- seibiannau byr
- cefnogaeth sesiynol
Rhagor o wybodaeth ar wefan Cysylltu Bywydau.