Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cronfa ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ac wedi colli eich swydd gyda Tata Steel UK yn ddiweddar, neu gyda chwmni yn ei gadwyn gyflenwi, neu gyda chontractiwr cysylltiedig arall, gallwch gael gyllid grant i gefnogi eich taith yn ôl i gyflogaeth gynaliadwy. 

Mae cymorth ar gael i unigolion sy'n chwilio am gyflogaeth ar hyn o bryd, yn ogystal â'r rhai mewn rolau newydd nad ydynt yn adlewyrchu eu sgiliau yn llawn neu nad ydynt yn cyd-fynd â'u lefelau incwm blaenorol.  Gall cymorth hefyd fod ar gael i'r rhai sy'n cael eu cyflogi ond sydd angen hyfforddiant ychwanegol i gynnal neu ddatblygu eu rolau, ac i unigolion sy'n datblygu eu busnes eu hunain nad ydynt eto yn gweithio'n llawn amser.

Sefydlwyd y Gronfa ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau gan Fwrdd Pontio Tata i gefnogi pobl yng Nghymru a effeithir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan raglen drawsnewid bresennol Tata Steel UK.

Ar gyfer beth y gellir defnyddio’r arian?

Os ydych chi’n gymwys, gall y grantiau ar gyfer unigolion eich helpu i dalu costau pethau fel:

  • costau cyrsiau hyfforddi
  • ffioedd sefyll arholiad
  • tystysgrifau a thrwyddedau sy’n ymwneud â gwaith
  • offer sydd angen ar gyfer hyfforddiant
  • yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer yr hunan-gyflogedig

Nid rhestr lawn o enghreifftiau mo’r uchod, ac ystyrir cefnogi ariannu costau eraill ar sail achosion unigol.

Sut alla i gael mynediad i'r cyllid?

Cysylltwch â Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer pob ymholiad a chymorth.

Anfonwch e-bost at jobsupport@npt.gov.uk i drefnu cyfarfod gydag un o’n mentoriaid Cyflogadwyedd CNPT i drefnu a ydych chi’n gymwys.

Neu gallwch alw naill ai yng nghanolfannau picio-i-mewn Cyflogadwyedd CNPT neu’r Ganolfan Gefnogi Gymunedol newydd yng Nghanolfan Siopa Aberafan.

Mae'r Ganolfan Gefnogi Gymunedol ar agor i pawb. Does dim angen bod yn aelod o Undeb Cymunedol.

Pa wybodaeth fydd angen i mi ei ddarparu?

Er mwyn helpu ein cynghorwyr i’ch cefnogi chi a symud eich ymholiad ymlaen yn gynt, bydd angen i chi ddarparu:

  • copi o’ch llythyr colli swydd
  • ID â llun arno
  • eich rhif Yswiriant Gwladol

Rydyn ni’n deall y gall colli eich gwaith a’r hyn a all ddilyn fod yn hynod anodd, ond erfyniwn arnoch i gysylltu. Rydyn ni yma i’ch helpu i benderfynu beth hoffech chi ei wneud, ac i’ch cefnogi ym mha gyfeiriad bynnag y dymunwch fynd.

Rhannu eich Adborth