Cronfa ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ac wedi colli eich swydd gyda Tata Steel UK yn ddiweddar, neu gyda chwmni yn ei gadwyn gyflenwi, neu gyda chontractiwr cysylltiedig arall, gallwch gael mynediad i arian grant i’ch helpu i sicrhau cyflogaeth i’r dyfodol.
Sefydlwyd y Gronfa ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau gan Fwrdd Pontio Tata i gefnogi pobl yng Nghymru a effeithir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan raglen drawsnewid bresennol Tata Steel UK.
Ar gyfer beth y gellir defnyddio’r arian?
Os ydych chi’n gymwys, gall y grantiau ar gyfer unigolion eich helpu i dalu costau pethau fel:
- costau hyfforddi
- ffioedd sefyll arholiad
- tystysgrifau a thrwyddedau sy’n ymwneud â gwaith
- offer a thaclau
- yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer yr hunan-gyflogedig
Nid rhestr lawn o enghreifftiau mo’r uchod, ac ystyrir cefnogi ariannu costau eraill ar sail achosion unigol.
Sut alla i gael mynediad i'r cyllid?
Os ydych chi’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot
Anfonwch e-bost at jobsupport@npt.gov.uk i drefnu cyfarfod gydag un o’n mentoriaid Cyflogadwyedd CNPT i drefnu a ydych chi’n gymwys.
Neu gallwch alw naill ai yng nghanolfannau picio-i-mewn Cyflogadwyedd CNPT neu’r Ganolfan Gefnogi Gymunedol newydd yng Nghanolfan Siopa Aberafan.
Mae'r Ganolfan Gefnogi Gymunedol ar agor i pawb. Does dim angen bod yn aelod o Undeb Cymunedol.
Os ydych chi’n byw yn rhywle arall yng Nghymru
Cysylltwch â’ch gwasanaeth cyflogadwyedd lleol os gwelwch yn dda:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Sir Gaerfyrddin
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Sir y Fflint
- Cyngor Gwynedd
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Cyngor Sir Fynwy
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot
- Cyngor Dinas Casnewydd
- Cyngor Sir Penfro
- Cyngor Sir Powys
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Dinas a Sir Abertawe
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Cyngor Bro Morgannwg
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neu os ydych chi’n gweithio ym Mhort Talbot ond yn byw yn rhywle arall, gallwch hefyd alw yn y lleoliadau picio-i-mewn uchod i siarad wyneb yn wyneb ag un o’n cynghorwyr.
Rydyn ni’n deall y gall colli eich gwaith a’r hyn a all ddilyn fod yn hynod anodd, ond erfyniwn arnoch i gysylltu. Rydyn ni yma i’ch helpu i benderfynu beth hoffech chi ei wneud, ac i’ch cefnogi ym mha gyfeiriad bynnag y dymunwch fynd.
Pa wybodaeth fydd angen i mi ei ddarparu?
Er mwyn helpu ein cynghorwyr i’ch cefnogi chi a symud eich ymholiad ymlaen yn gynt, bydd angen i chi ddarparu:
- copi o’ch llythyr colli swydd
- ID â llun arno
- eich rhif Yswiriant Gwladol