Cymorth a lles arall
Gall newid fod yn anodd, ac mae’n bwysig gofalu am eich iechyd a’ch lles. Mae help ar gael yn lleol i chi a’ch teulu. Mae pobl ar gael i wrando arnoch a rhoi cymorth. Cysylltwch â’r asiantaethau isod sydd yma i helpu.
Iechyd emosiynol a lles
24/7 cymorth Iechyd Meddwl
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe linell gymorth iechyd meddwl 24/7 y mae modd cysylltu â hi drwy ffonio 111 a phwyso opsiwn 2.
CVS Castell-nedd Port Talbot
Mae gan dudalen we Argyfwng Costau Byw NPT CVS adnoddau a all gynnig cefnogaeth, gwybodaeth ac arweiniad. Gallwch hefyd ddod o hyd i gyfeiriadur gwasanaethau iechyd meddwl, yn genedlaethol ac yng Nghastell-nedd Port Talbot, a all gynnig help.
Llinell Cyngor a Gwrando Cymuned (C.A.L.L.)
C.A.L.L cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth gyfrinachol
Meddwl Castell-nedd Port Talbot
Eich elusen iechyd meddwl leol, sy'n rhoi cyngor a chefnogaeth i rymuso unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl.
Y Samariaid
Beth bynnag rydych chi'n mynd drwyddo, ffoniwch Y Samariaid am ddim, unrhyw bryd, o unrhyw ffôn, ar 116 123.
Sorted:Supported
Datblygwyd Didoli:Supported mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg i'ch helpu i ofalu am eich lles emosiynol a meddyliol.
Hapus
Mae Hapus yn adnodd Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n ymroddedig i les meddwl.
Cam-drin domestig
Gellir disgrifio cam-drin domestig fel digwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy’n cynnwys ymddygiad rheolaethol, gorfodaethol, bygythiol, diraddiol neu dreisgar, gan gynnwys trais rhywiol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn hyn cael ei wneud gan bartner neu gyn-bartner, ond gall hefyd fod o dan law aelod o’r teulu neu ofalwr. Gall cam-drin domestig ddigwydd yn y cartref neu mewn man arall, ac mae’n aml yn parhau ar ôl i’r berthynas rhwng y goroeswr a’r achoswr wedi dod i ben.
Os ydych chi’n profi unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth, dylai fod modd i chi gael help a chefnogaeth pan fo’i angen arnoch.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys manylion cyswllt gwasanaethau cefnogi arbenigol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol (VAWDASV).
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofnyn wasanaeth rhad ac am ddim, cyfrinachol 24/7 sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth ym maes cam-drin domestig, trais rhywiol, neu drais yn erbyn menywod ledled Cymru.
Cymorth i Fenywod Thrive
- Castell-nedd Port Talbot
Thrive Women’s Aid yn elusen cam-drin domestig a leolir yn lleol, sy’n cefnogi unigolion a theuluoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot
New Pathways
Gwasanaethau cefnogi Argyfwng Trais a cham-drin rhywiol New Pathways. Gwasanaethau cefnogi arbenigol ledled Cymru ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan drais, ymosodiadau neu gam-drin rhywiol.
Calan DVS
Mae Calan DVSyn darparu gwasanaethau i ddod â thrais a cham-drin domestig i ben ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, De Powys a Rhydaman (Sir Gaerfyrddin)
Threshold DAS
- Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Mae Threshold DAS yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddileu trais a cham-drin menywod, dynion, plant a phobl ifanc a'r rhai sy'n gyflawnwyr drwy sicrhau newid gwleidyddol, diwylliannol a chymdeithasol.
Driving Change
- Caerdydd, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf neu Ben-y-bont ar Ogwr
Mae Driving Change yn rhaglen cam-drin domestig ar gyfer dynion sy’n cydnabod eu bod wedi bod yn dreisgar a / neu’n gamdriniol yn eu perthynas ag eraill
Change that Lasts Early Perpetrator Response (CLEAR)
- Caerdydd, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf neu Ben-y-bont ar Ogwr
Mae CLEAR yn gwrs byr, rhad ac am ddim sy’n codi ymwybyddiaeth ar gyfer dynion a hoffai gael perthynas iachach ag eraill. Ei nod yw ateb gofynion dynion sydd wedi amlygu fod eu hymddygiad yn achosi gofid, ac sydd wedi’u hysgogi i wneud rhywbeth ynglŷn â hyn, ond nad ydyn nhw hyd yma’n datgelu na’n cymryd cyfrifoldeb dros eu cam-drin.
Stori
Bawso
Bawso cefnogi lleiafrifoedd ethnig a effeithiwyd gan drais ac ecsploetio
Welsh Women’s Aid
Welsh Women's Aid Sefydliad amlgynhwysol cenedlaethol Cymru ar gyfer gwasanaethau arbenigol y trydydd sector sy’n gweithio i ddod â cham-drin domestig, trais rhywiol, a mathau eraill o drais yn erbyn merched i ben