Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cefnogaeth i fusnesau newydd

Ydych chi'n meddwl am ddechrau busnes?

Gall ein Tîm Datblygu Economaidd helpu gyda phob agwedd ar ddechrau busnes gan gynnwys:

  • ariannu
  • arweiniad
  • hyfforddiant
  • cyflogaeth a llawer mwy

Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn darparu un pwynt cyswllt cyn cychwyn ar gyfer busnesau newydd ac unigolion sy’n ystyried hunangyflogaeth i amrywiaeth eang o wybodaeth, cyngor a chymorth busnes gan y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Sut i gael mynediad at gefnogaeth

Anfonwch e-bost at selfemployment@businesswales.org neu ffoniwch dîm lleol Busnes Cymru ar: 01656 868500

Cymorth Busnes Cymru ar gyfer proses bontio Tata Steel

Mae Busnes Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Chyngor Castell-nedd Port Talbont i ddarparu cymorth busnes i unigolion, busnesau presennol a chwmnïau cadwyn gyflenwi yr effeithiwyd arnynt gan drawsnewidiad Tata Steel.

I gael rhagor o wybodaeth a gwirio a ydych yn gymwys i gael cyllid, ewch i dudalen Cymorth Busnes Cymru ar gyfer proses bontio Tata Steel.