Cronfa Pontio'r gadwyn gyflenwi
Mae Cronfa Pontio'r Gadwyn Gyflenwi yn cefnogi busnesau o Gymru o fewn cadwyn gyflenwi Tata Steel UK neu gontractwyr y mae'r newidiadau i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot wedi effeithio arnynt.
Y nod yw helpu busnesau i barhau i fod yn wydn, diogelu swyddi a pharatoi ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol, gyda ffocws penodol ar weithgynhyrchu, peirianneg, TGCh, adeiladu, saernïo a sectorau ynni adnewyddadwy.
Mae gan y gronfa ddwy elfen:
- Grantiau Cymorth Busnes rhwng £2,500 a £50,000, wedi'u hariannu 100% (heb gynnwys TAW), i gefnogi costau gorbenion o ddydd i ddydd a gwariant refeniw a chyfalaf arall fel marchnata, astudiaethau dichonoldeb, TG neu uwchraddio systemau.
- Grantiau Cyfalaf rhwng £50,001 a £250,000, a ariennir ar gyfradd ymyrraeth o 70%, ar gyfer buddsoddiadau fel offer, peiriannau, isadeiledd TG, systemau ynni adnewyddadwy neu welliannau eiddo.
Gall busnesau wneud cais am y ddwy elfen, hyd at uchafswm grant cyfunol o £300,000.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau gwerthusiad Busnes Cymru a rhaid bod ganddynt strategaeth oroesi neu strategaeth dwf ar waith.