Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cartrefi budr ac wedi'u heintio â phlâu

Arolygiad

Gall cartrefi brwnt a rhai sydd wedi'u heintio a phlâu fod yn berygl i iechyd ac yn niwsans.

Gallwn gynnal archwiliad os oes gan y cartref gronni o’r canlynol:

  • cynhyrchion gwastraff
  • bwyd wedi pydru
  • carthion dynol neu anifeiliaid
  • deunyddiau celc
  • plâu

Hysbysiad cyfreithiol

Os bydd angen, bydd perchnogion neu feddianwyr yn cael hysbysiad cyfreithiol i:

  • cael gwared ar sbwriel
  • cael gwared ar neu ddinistrio plâu
  • cael gwared ar garthion halogedig
  • glanhau a diheintio arwynebau mewnol
  • cael gwared ar ddodrefn halogedig
  • Trefnu gwaith atgyweirio angenrheidiol i'r eiddo

Rhoi gwybod am gartref budr ac wedi'i heintio â phlâu

Os ydych chi'n gwybod bod cartref yn frwnt a / neu'n llawn plâu, gallwch roi gwybod amdano ar-lein:

Efallai y bydd asiantaethau eraill fel Gwasanaethau Cymdeithasol yn cymryd rhan os oes risg i iechyd rhywun.

Rhannu eich Adborth