Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cymorth llifogydd i gartrefi yn Llansawel (Diweddarwyd 23/12/2025)

Mae'r Ganolfan Cymorth Llifogydd bellach wedi cau, ond mae cymorth ar gael o hyd i drigolion yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd.

Cysylltiadau allweddol

Cynghorydd

Eich Cynghorydd lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot yw'r Cynghorydd Gareth Rice. Ffoniwch: 07812664458

Tai a digartrefedd

Os ydych chi neu'ch aelwyd yn ddigartref dros gyfnod y Nadolig, ffoniwch 01639 685219.

Gwasanaeth Hawliau Lles

Cyngor a chymorth ar gyfer hawliadau budd-daliadau lles. E-bostiwch:  welfarerights@npt.gov.uk neu ffoniwch: 01639 685225.

Cyngor ar bopeth

Cymorth cyfrinachol am ddim gyda phroblemau arian a dyled. Ffoniwch: 03030 033 577.

Cysylltiadau y tu allan i oriau gwaith ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor

Os oes gennych ymholiad brys ac angen siarad â'n tîm y tu allan i oriau gwaith, ffoniwch 01639 686868.

Pwynt cyswllt unigol (SPOC)

Am gyngor iechyd a lles i blant, teuluoedd ac oedolion. Ffoniwch: 01639 686802.

Efallai y bydd gan rai sefydliadau oriau agor gwahanol dros gyfnod y Nadolig.

Achosion y llifogydd ac atal llifogydd yn y dyfodol

Rydym yn deall bod trigolion yn pryderu am achosion llifogydd a'r hyn sy'n cael ei wneud i atal digwyddiadau yn y dyfodol yn Llansawel.

Mae ymchwiliadau cychwynnol yn dangos bod gwahanol ffactorau ynghlwm mewn gwahanol feysydd. Fel rhan o'n dyletswyddau statudol, byddwn yn cynnal ymchwiliadau llifogydd yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt. Bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi a'u rhoi ar gael i'r cyhoedd maes o law.

Ar gyfer trigolion Pant yr Heol, bydd y Cyngor yn arwain ar yr ymchwiliad hwn a bydd yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf pan fydd ar gael.

I drigolion Stryd Ritson a Stryd yr Hunters, rydym yn eich annog i gysylltu â Dŵr Cymru Welsh Water am wybodaeth a diweddariadau.

Dros y tymor hir, rydym wedi bod yn gweithio i ddatblygu atebion i leihau'r perygl o lifogydd yn ardal Llansawel. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd ar ddau gynllun rheoli perygl llifogydd mawr yng Nghwlfer Nant Grandison (ger Pant-yr-Heol) a Nant Cryddan (ger y Bingo).

Casgliadau sbwriel ac ailgylchu

Yn dilyn casglu eitemau a ddifrodwyd gan lifogydd y penwythnos diwethaf, byddwn yn trefnu casgliadau pellach ar gyfer trigolion nad ydynt wedi rhoi eu heitemau allan eto oherwydd eu bod yn aros i'w hyswirwyr eu hasesu. Byddwn yn rhoi diweddariad pellach yn fuan gyda manylion ynghylch pryd y bydd y casgliadau hyn yn digwydd.

Byddwn yn parhau i gasglu eich bin olwynion / bagiau du yn rheolaidd ac ailgylchu os yw llifogydd wedi effeithio arnoch chi.

Gwirio newidiadau i gasgliadau gwyliau banc y Nadolig hwn.

Rhannu eich Adborth