Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Llwybr Hwyl y Nadolig

Trosolwg

Mae coblynnod digywilydd Siôn Corn wedi cael eu gweld yn cuddio mewn ffenestri busnesau ledled canol trefi Castell-nedd Port Talbot, ac mae angen eich cymorth ar Siôn Corn i ddod o hyd iddyn nhw i gyd!

Ymunwch â'n Llwybr Hwyl y Nadolig rhwng Dydd Sadwrn 21 Tachwedd tan Ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr, crwydrwch ganol eich tref i weld faint o goblynnod y gallwch eu canfod ar y ffordd.

Casglwch daflen weithgaredd o'ch llyfrgell leol, ac yna chwiliwch am goblynnod Siôn Corn mewn ffenestri busnesau sy'n cymryd rhan. Pan fyddwch chi'n gweld coblyn, nodwch enw'r busnes ar eich taflen.

Dewch o hyd i 6 o fusnesau sy'n cymryd rhan ac ewch â'ch taflen weithgaredd, wedi'i chwblhau, yn ôl i'r llyfrgell am gyfle i ennill gwobrau Nadoligaidd gwych! 

Bydd Llwybr Hwyl y Nadolig yn digwydd yn y trefi canlynol:

  • Castell-nedd
  • Port Talbot
  • Pontardawe
*

Sut i gymryd rhan

Casglwch eich taflen weithgaredd 

Casglwch daflen weithgaredd Llwybr Hwyl y Nadolig, yn rhad ac am ddim, o'ch llyfrgell leol sy'n cymryd rhan yn:

Chwiliwch am Goblynnod Siôn Corn

Cerddwch drwy ganol y dref a chwiliwch am goblynnod Siôn Corn sy'n cuddio yn ffenestri'r busnesau.

Cofnodwch eich busnesau

Nodwch enw 6 o'r busnesau lle rydych chi wedi dod o hyd i goblyn.

Ewch â'ch taflen yn ôl

Ewch â'ch taflen weithgaredd, wedi'i chwblhau, yn ôl i'r llyfrgell i gael ei gynnwys yn y gystadleuaeth.

*

Ennill gwobr

Bydd pawb sy'n dod o hyd i 6 o fusnesau sy'n cymryd rhan ac yn cyflwyno taflen weithgaredd wedi'i chwblhau yn cael cyfle i ennill gwobr.

Mae nifer o dalebau siopau'r stryd fawr i'w hennill gwerth hyd at £200!

Ewch i ymweld â phob un o'r tair tref a chyflwynwch daflen o bob lleoliad am gyfle ychwanegol i ennill! 

Byddwn yn cysylltu â'r enwau ddaw o'r het i ennill gwobrau yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 21 Rhagfyr 2026.

Nol i ben y dudalen