Dyddiadau parcio yn rhad ac am ddim
Mae’r fenter i gynnig parcio rhad ac am ddim ar gyfer canol trefi Port Talbot, Pontardawe a Chastell-nedd yn parhau eleni gyda phum dyddiad yn arwain at y Nadolig yn cael eu pennu’n ‘ddiwrnodau parcio am ddim’:
- Dydd Mercher, 17 Rhagfyr 2025
- Dydd Iau, 18 Rhagfyr 2025
- Dydd Gwener, 19 Rhagfyr 2025
- Dydd Sadwrn, 20 Rhagfyr 2025
- Dydd Sul, 21 Rhagfyr 2025
Cytunwyd ar amserlen barcio rhad ac am ddim eleni yn dilyn ymgynghoriad gyda busnesau a sefydliadau a leolir ynghanol trefi Castell-nedd, Port Talbot, a Phontardawe.
Gwahoddwyd busnesau a sefydliadau cymwys i bleidleisio dros y pum diwrnod o barcio am ddim a ffafriwyd.
Lleoliadau lle mae parcio yn rhad ac am ddim
Bydd parcio rhad ac am ddim ar gael yn y meysydd parcio talu ac arddangos canlynol yng nghanol y dref:
Castell-nedd
- Maes Parcio’r Stryd Fawr
- Maes Parcio Heol Milland
- Maes Parcio Aml-lawr Castell-nedd
- Maes Parcio Stryd Rosser
Port Talbot
- Maes Parcio Sgwâr Bethany
- Maes Parcio’r Ganolfan Ddinesig
- Parcffordd Glan yr Harbwr
- Maes Parcio Aml-lawr Port Talbot
- Maes Parcio’r Santes Fair
- Maes Parcio Heol yr Orsaf