Cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff (NERS)
Beth yw NERS?
Menter Iechyd Cyhoeddus Cymru yw NERS i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith y rhai sydd ar hyn o bryd yn anweithgar neu y mae ganddynt gyflyrau meddygol penodol. Ystyr NERS yw National Exercise Referral Scheme.
Efallai y bydd eich meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol yn credu y byddech yn elwa o fod yn fwy egnïol yn gorfforol. Er mwyn eich cefnogi i adeiladu mwy o weithgaredd yn eich bywyd, efallai y byddwch am gymryd rhan yn y rhaglen atgyfeirio ymarfer corff. Fel rhan o'r rhaglen hon, cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn nifer o sesiynau ymarfer corff dan oruchwyliaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Rydym yn deall nad yw pawb yn teimlo'n gysurus mewn campfeydd traddodiadol. Felly, er mwyn sicrhau apêl eang, bydd y cynllun hwn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau mewn nifer o leoliadau gwahanol.
Bydd pob rhaglen o weithgarwch wedi'i dylunio i fod yn addas i anghenion y claf unigol a bydd bob amser dan oruchwyliaeth hyfforddwr NERS. Bydd yr holl wybodaeth bersonol a roddir i hyfforddwyr NERS yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol. Cost pob sesiwn yw £3.00
- Tai Chi
- Gampfa a Chylchedau
- Nofio
- Cwrs bwyta'n iach
- Pilates
Mae hefyd gennym amrywiaeth o ddosbarthiadau arbenigol e.e. ymarfer corff yn dilyn strôc, adsefydlu cardiaidd, adsefydlu ysgyfeiniol.
Mae wedi'i brofi bod ymarfer corff yn gwella iechyd pobl mewn sawl ffordd. Er enghraifft, mae'n lleihau'r risg o glefyd y galon, mae'n iselhau pwysedd gwaed ac yn helpu gyda cholli pwysau. Hefyd, gall helpu i leihau straen, gofid ac iselder, gan wella teimlad o les y cyfranogwyr o ganlyniad.
ydd cynllun NERS yn cynnig cyfle i brofi o leiaf ddwy sesiwn weithgarwch bob wythnos.
Pan fyddwch yn dilyn y rhaglen ymarfer corff, bydd gweithiwr proffesiynol sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn cysylltu â chi i'ch gwahodd am ymgynghoriad. Yn yr ymgynghoriad hwn, bydd y gweithiwr proffesiynol yn cael ychydig mwy o wybodaeth am eich hanes iechyd a helpu i ddewis rhaglen o ymarfer corff sy'n addas i chi, dosbarthiadau a fydd yn ddifyr a'ch helpu i wella'ch iechyd. Byddwch yn gallu cael mynediad at ystod eang o gyfleoedd a bydd y rhain ar gael i chi am 16 wythnos y rhaglen. Ar ôl 16 wythnos, byddwch yn cyfarfod â gweithiwr proffesiynol ymarfer corff eto i helpu i gytuno ar gynllun ar gyfer parhau i ymarfer.
Cydlynydd Prosiect NERS CNPT:
Lisa Jones
NERS CNPT
Canolfan Chwaraeon Castell-nedd
Heol yr Abaty
Castell-nedd
SA10 7BR
Ffôn: 01639 640052
E-bost: l.jones9@npt.gov.uk
Fideos dosbarth ymarfer corff
Fideo dosbarth ymarfer corff Pilates sylfaenol ar eich eistedd
Fideo ymarfer corff dosbarth Pilates sylfaenol wrth sefyll
Fideo ymarfer corff dosbarth Pilates ysgafn ar fat
Dosbarth ymarfer corff canolraddol
Dosbarth symud ar eich eistedd sy'n codi curiad y galon