Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Parc Gwledig y Gnoll

Wedi'i leoli o fewn 200 erw o goetir ac yn enwog am ei harddwch 

Adfywiad

Mae gwaith ailddatblygu mawr werth £12 miliwn o'r parc bellach wedi'i gwblhau. Mae'r gwaith wedi cynnwys:

  • canolfan ymwelwyr deulawr newydd
  • gwaith sefydlogi a thrwsio adfeilion Tŷ Gnoll
  • adfer rhaeadrau hanesyddol y parc
  • pont newydd sy’n cysylltu’r parc â Fferm Brynau gerllaw, sy’n hafan i fywyd gwyllt dan reolaeth Coed Cadw.

Canolfan ymwelwyr

Mae'r ganolfan ymwelwyr deulawr hygyrch newydd yn cynnig:

  • caffi modern
  • balconi deniadol sy’n wynebu’r de gyda golygfeydd ysgubol dros y llyn
  • mannau hyblyg i gynnal digwyddiadau a chyfarfodydd
  • ardal chwarae meddal benodol i blant (bydd yn agor yn yr wythnosau nesaf)

Pethau i'w gwneud

Mae Parc Gwledig y Gnoll yn cynnig digonedd o weithgareddau i’r teulu cyfan, gan gynnwys:

  • maes chwarae antur y goedwig ‘Tyrau Gnoll, sef tri thŵr drigon cysylltiedig
  • ardaloedd chwarae plant
  • teithiau cerdded coetir, drwy gyfrwng pont newydd sy’n cysylltu’r parc â Fferm Brynau
  • adfeilion Tŷ'r Gnoll
  • 4 pwll hwyaid
  • rhaeadrau o'r 18fed ganrif

Oriau agor - gaeaf

(1 Hydref - 31 Mawrth)

Lleoliad Amser Dydd
Parc 8yb - 5yp Dyddiol
Caffi 10yb - 4yp Dyddiol

Oriau agor - Nadolig

Canolfan ymwelwyr

Dyddiad Amser
Dydd Llun 22 December 10yb - 5yp
Dydd Mawrth 23 December 10yb - 5yp
Dydd Mercher 24 December 10yb - 12.30yp
Dydd Iau 25 December Ar gau
Dydd Gwener 26 December 10yb - 12.30yp
Dydd Sadwrn 27 December 10yb - 5yp
Dydd Sul 28 December 10yb - 5yp
Dydd Llun 29 December 10yb - 5yp
Dydd Mawrth 30 December  10yb - 5yp
Dydd Mercher 31 December 10yb - 12.30yp
Dydd Iau 1 January Ar gau
Dydd Gwener 2 January 10yb - 5yp

Bwthyn y Pwll

Wedi'i lleoli yng nghanol y tiroedd, mae Bwthyn y Pwll yn llety gwyliau sy'n gyfeillgar i gŵn, gyda lle i hyd at chwech o bobl gysgu.

Arferai’r tŷ fod yn fwthyn i’r parcmon yn Oes Fictoria, ac mae’n cynnwys:

  • stôf sy’n llosgi pren gyda phren a ffynnonellir yn gynaliadwy o’r parc
  • gerddi preifat
  • ardal i eistedd ble gellir mwynhau golygfeydd o bwll y parc a’i fywyd gwyllt
Bydd y bwthyn ar gael i'w archebu cyn bo hir.

Parcio

Mae’r wybodaeth a’r taliadau maes parcio canlynol yn berthnasol:

Amser Pris
Hanner diwrnod (hyd at 4 awr) £3.50
Diwrnod llawn £4.50
Derbynnir prif gardiau credyd / debyd.

Trwydded Parcio Blynyddol

Toiledau

Mae tŷ bach Changing Places ar y llawr gwaelod, yn ogystal â chyfleusterau newid cewynnau a thai bach i ddynion a merched.

Tocyn Pob Parc

Mwynhewch werth anhygoel a mynediad diderfyn trwy gydol y flwyddyn.

Cysylltwch

Cyfarwyddiadau i SA11 3BS
Parc Gwledig Ystâd y Gnoll
Ystâd y Gnoll Fairyland Castell-nedd Castell-nedd Port Talbot SA11 3BS pref
(01639) 635808 (01639) 635808 voice +441639635808

Rhannu eich Adborth