Pethau i'w gweld
Mae’r parc hwn o oes Fictoria yn cynnig encil golygfaol a heddychlon i bawb ei fwynhau. Gyda dros ganrif o hanes, fe welwch y:
- Safle'r seindorf Fictoraidd gwreiddiol
- Cerrig yr Orsedd
- cerflun efydd Howel Gwyn
- adeilad cymunedol
Adeilad cymunedol
Mae’r adeilad cymunedol yn ddelfrydol ar gyfer:
- cyfarfodydd
- cynadleddau
- arddangosfeydd
- ffeiriau crefft
- defnydd ysgol
- partïon plant
- cynulliadau teulu
Cyfleusterau
- seddi ar gyfer hyd at 20 o bobl
- taflunydd a sgrin wedi'u gosod
- toiled anabl
- mynediad WiFi am ddim
- drysau deublyg yn arwain allan i ardal patio breifat
- dolen sain
Llogi'r ystafell
| Amser | Tâl |
|---|---|
| Hanner diwrnod | £39 |
| Diwrnod llawn | £76 |
| Hyd at 2 awr | £22.50 |
I holi am argaeledd neu archebu, e-bostiwch victoriagardens@npt.gov.uk.
Trafnidiaeth
Ar gyrion y gerddi fe ddewch o hyd i orsaf fysiau Castell-nedd, ac mae gorsaf drenau Castell-nedd yn daith gerdded 5 munud.
- cysylltiadau trafnidiaeth ar drên a bws
- mae raciau beiciau ar gael i barcio beiciau'n ddiogel yng nghanol y dref
Parcio
Mae maes parcio ar gael yng nghanol tref Castell-nedd. Mae’r wybodaeth a’r taliadau parcio ceir canlynol yn berthnasol:
| Maes parcio | Lleoedd | Anabl | Tâl (Llun-Sadwrn) | Tâl (Trwy dydd Sul) |
|---|---|---|---|---|
| Stryd Fawr | 31 | 6 | Llun-Sadwrn | £1.00 |
| Heol Milland | 413 | 37 | Llun-Sadwrn | £1.00 |
| Aml-lawr Castell-nedd | 557 | 34 | Llun-Sadwrn | £1.00 |
| Stryd Rosser | 31 | 2 | Llun-Sadwrn | £1.00 |