Penderfynu ar geisiadau
Penderfynir ar geisiadau CCS gan Swyddogion o dan bwerau dirprwyedig.
Penderfyniadau Dirprwyedig
Materion dirprwyedig arferol
Materion dirprwyedig arferol yw'r ceisiadau neu'r materion hynny nad oes rhaid i'r Panel Dirprwyedig benderfynu arnynt (gweler 3 isod).
Rhoddir y pwerau dirprwyedig canlynol i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd, Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, y Rheolwr Rheoli Datblygiad Priffyrdd a dau Arweinydd Tîm y gwasanaeth Rheoli Datblygu Priffyrdd (Uwch-beirianwyr Datblygu Priffyrdd): -
- Penderfynu ar yr holl geisiadau mewn perthynas ag Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
- Awdurdodi unrhyw gamau gorfodi (ac eithrio Hysbysiadau Gorfodi neu Hysbysiadau Stop) mewn perthynas ag Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
- Awdurdodi swyddogion unigol i weithredu fel Arolygwyr/Swyddogion Awdurdodedig/Swyddogion Gorfodi o dan ddeddfwriaeth yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig o dan Atodlen 3 fel a nodir isod:
- Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
- Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffïoedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018
- Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018
- Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
- Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018
- Cychwyn achosion cyfreithiol ar ran y cyngor, mewn ymghyngoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol/cyfreithiwr y cyngor, mewn perthynas ag unrhyw drosedd o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
- Hawliau mynediad - awdurdodi hawliau mynediad ar gyfer swyddogion perthnasol mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth ganlynol:-
- Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, Atodlen 3
- Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
- Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffïoedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018
- Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018
- Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
- Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018
- Deddf Priffyrdd 1980 ̶ Adran 293
- Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ̶ Adran 71
- Penderfynu ar Ddatganiadau Draenio Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15, a Dyluniad Llifogydd (Afonol) lleol.
Panel Dirprwyedig
Bydd y Panel Dirprwyedig yn penderfynu ar geisiadau / adroddiadau sy'n gysylltiedig â'r materion canlynol:
- ceisiadau/materion lle derbyniwyd tri gwrthwynebiad neu fwy ar sail ddilys mewn perthynas â draenio
- gwrthod ceisiadau (lle bydd swyddogion yn bwriadu gwrthod cais)
- datblygiadau sy'n cynnwys mwy na 10 annedd (naill ai ceisiadau llawn neu amlinellol) nad oes ganddynt ganiatâd cynllunio eisoes
- datblygiadau (naill ai ceisiadau llawn neu amlinellol) sy'n creu mwy na 1000 o fetrau sgwâr o arwynebedd llawr newydd mewn perthynas ag adeiladau diwydiannol, amaethyddol, masnachol neu rai nad ydynt yn fasnachol.
- awdurdod i roi Hysbysiad Gorfodi neu Hysbysiad Stop
- cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl
- cymeradwyo ceisiadau am ryddhau amodau
Bydd y panel yn cynnwys tri uwch-swyddog (Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth a/neu'r Rheolwr Rheoli Datblygiad Priffyrdd ̶ Peirianneg a Thrafnidiaeth, ynghyd â dau reolwr tîm).