Safonau cymeradwyo
Safonau Statudol Cenedlaethol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy
Rhaid i system ddraenio fodloni safonau penodol er mwyn i’r CCS ei chymeradwyo a’i mabwysiadu.
Os na chyrhaeddir y safonau, bydd y cais yn cael ei wrthod. Felly, mae’n syniad da siarad â’r CCS yn gynnar a chael cyngor cyn ymgeisio.
Darllenwch y ddogfen safonau lawn ar wefan Llywodraeth Cymru.
Safonau a rhestrau gwirio eraill
Dyluniwch a gwiriwch bob cais yn unol â'r Llawlyfr SDCau diweddaraf gan Ciria (C753) gan gynnwys eu rhestrau gwirio. Cyfeiriwch at y penodau perthnasol yn y ffurflenni wrth gyflwyno'ch cais.
Safonau Lleol
Cyfeiriwch at ganllaw Castell-nedd Port Talbot a'r Safonau Cenedlaethol.
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
I gael gwybodaeth am y safonau CNC, dilynwch y ddolen a ddarperir isod.