Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Talu ffioedd cais CCS

Mae nifer o ddulliau y gellir eu defnyddio i dalu am eich cais CCS.

Siec

Yn daladwy i ‘CBSCNPT’ neu ‘CBS Castell-nedd Port Talbot’ neu ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot’

Cerdyn debyd neu gredyd

Cysylltwch â ni ar 01639 686906 i wneud taliad gan ddefnyddio'r dull hwn.

Dyfynnwch y wybodaeth ganlynol ym mhob trafodiad:

  • rhif cyfeirnod y cais
  • cyfeiriad safle'r cais

Nid ydym yn derbyn American Express.

BACS

Os ydych yn talu drwy BACS cysylltwch â ni ar 01639 686906 fel y gellir rhoi manylion Enw'r Banc, Cod Didoli a Rhif ein Cyfrif.

Wrth wneud taliad BACS, anfonwch gyngor talu gan gyfeirio at 'Taliad C.C.S.' i accounts@npt.gov.uk. Ar ben hynny, anfonwch e-bost i hysbysu SAB-HDC@npt.gov. uk.