Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymholiadau cyn ymgeisio

Rydym yn darparu cyngor o ansawdd uchel i gwsmeriaid cyn iddynt gyflwyno cynigion datblygu. Ein nod yw darparu gwasanaeth Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) yn gyflym.

Corff Cymeradwyo SDCau

Mae'r Cyngor yn rhoi cyngor i ddatblygwyr cyn ac yn ystod y broses gynllunio.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyn-ymgeisio o dan Ddeddf Rheoli Dŵr a Llifogydd 2010.

Fel rhan o’r trafodaethau cychwynnol rhaid i unrhyw wybodaeth a gyflwynir gynnwys:

  • llwybrau llif
  • pwyntiau gollwng
  • cynllun cyfuchlin

Ffioedd a thaliadau

Mae pob cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

  • bydd CCS yn darparu'r gwasanaethau hyn o fewn 28 diwrnod i dderbyn dogfennau a thaliad
  • mae ffioedd llawn i'w talu wrth gyflwyno ac ni ellir eu had-dalu
  • mae'r gwasanaeth hwn ar wahân i'r gwasanaeth ceisiadau cyn cynllunio
  • unwaith y bydd eich cais am gyngor cyn ymgeisio wedi’i ddilysu, ni ellir ad-dalu ffioedd

Mathau o geisiadau

Pecyn Cyngor Cyn Ymgeisio (DIM yn cynnwys cyfarfod â Chorff Cymeradwyo SDCau)

Maint y datblygiad Ffi Disgrifiad o'r gwasanaeth
a. Mân Ddatblygiad (1-9 annedd, rhwng 100m² – 999m²) £300 Adolygu'r manylion a'r wybodaeth a gyflwynwyd a arweiniodd at greu adroddiad gyda sylwadau SDCau.
b. Datblygiad Mawr (10-24 annedd, rhwng 1,000m² – 1,999m²) £600 Adolygu'r manylion a'r wybodaeth a gyflwynwyd a arweiniodd at greu adroddiad gyda sylwadau SDCau.
c. Datblygiad Mawr Iawn (Mwy na 24 o anheddau, dros 1,999m²) £1100 Adolygu'r manylion a'r wybodaeth a gyflwynwyd a arweiniodd at greu adroddiad gyda sylwadau SDCau.

 

Pecyn Cyngor Cyn Ymgeisio (DIM yn cynnwys cyfarfod â Chorff Cymeradwyo SDCau)

Maint y datblygiad Ffi Disgrifiad o'r gwasanaeth
a. Mân Ddatblygiad (1-9 annedd, rhwng 100m² – 999m²)
£300 Adolygu'r manylion a'r wybodaeth a gyflwynwyd a arweiniodd at greu adroddiad gyda sylwadau SDCau.
b. Datblygiad Mawr (10-24 annedd, rhwng 1,000m² – 1,999m²) £600 Adolygu'r manylion a'r wybodaeth a gyflwynwyd a arweiniodd at greu adroddiad gyda sylwadau SDCau.
c. Datblygiad Mawr Iawn (Mwy na 24 o anheddau, dros 1,999m²) £1100 Adolygu'r manylion a'r wybodaeth a gyflwynwyd a arweiniodd at greu adroddiad gyda sylwadau SDCau.

 

Pecyn Cyngor Cyn Ymgeisio (gan gynnwys cyfarfod â Chorff Cymeradwyo SDCau)

Maint y datblygiad Ffi Disgrifiad o'r gwasanaeth
a. Mân Ddatblygiad (1-9 annedd, rhwng 100m² – 999m²) £400
Adolygu’r manylion/gwybodaeth a gyflwynwyd, ymweliad safle a/neu gyfarfod(ydd) dylunio’r CCS gan arwain at greu adroddiad gyda sylwadau SDCau.
b.Datblygiad Mawr (10-24 annedd, rhwng 1,000m² – 1,999m²) £700 Adolygu’r manylion/gwybodaeth a gyflwynwyd, ymweliad safle a/neu gyfarfod(ydd) dylunio’r CCS gan arwain at greu adroddiad gyda sylwadau SDCau.
c.Datblygiad Mawr Iawn (Mwy na 24 o anheddau, dros 1,999m²) £1300 Adolygu’r manylion/gwybodaeth a gyflwynwyd, ymweliad safle a/neu gyfarfod(ydd) dylunio’r CCS gan arwain at greu adroddiad gyda sylwadau SDCau.

 

Ymweliad(au) safle

Mae'r ffioedd canlynol yn newydd ac yn cael eu cyflwyno ar sail amser swyddogion.

Maint y datblygiad Ffi Disgrifiad o'r gwasanaeth
Pob datblygiad £168 am bob ymweliad i'r safle Mae'r gost hon ar gyfer ymweliad safle i'w dalu yn ychwanegol at becyn cyn ymgeisio. Mae hyn yn cynnwys costau teithio.

 

Cyngor technegol CCS

Maint y datblygiad Ffi Disgrifiad o'r gwasanaeth
Pob datblygiad £100 yr awr Ymateb technegol i gwestiwn(cwestiynau) penodol. Tâl o 1 awr o leiaf.

 

Nodyn cyfarwyddyd

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut mae’r CCS ar gyfer CNPT yn rhoi cyngor cyn ymgeisio:

  • Y Gwasanaeth Cyn Ymgeisio a gynigir gan CNPT (Adran 5)

  • Ceir cyngor ychwanegol a roddir ar ôl yr ymateb cyntaf gan y gwasanaeth swyddogol o dan Adran 6.1.

Anogir datblygwyr i gynnal trafodaethau cyn-ymgeisio anffurfiol gyda’r CCS.

Manteision 

 Mae siarad â chwsmeriaid yn gynnar yn helpu'r CCS i gyflawni datblygiad ansawdd yn gyflym.

Mae hyn yn helpu trwy:

  • cyflymu penderfyniadau a gwella cynigion
  • dod o hyd i broblemau ac a oes angen cymorth arbenigol arnoch
  • cael adborth os caiff eich datblygiad ei gymeradwyo a dod o hyd i atebion os na fydd
  • rhoi cyngor ar yr hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer eich cais
  • lleihau'r amser y mae eich cynghorwyr yn ei dreulio

Ein Hymrwymiad i chi

Mae'r Cyngor yn rhoi'r cyngor draenio gorau i ddatblygwyr cyn iddynt wneud cais.

Ein Haddewid

Rydym yn cynnig cyngor o ansawdd uchel i wneud eich datblygiad yn gyflym ac yn hawdd.

Ar ôl cyflwyno ffurflen cyn ymgeisio, bydd y Swyddog Achos dynodedig yn:

  • cysylltu â chi i drafod eich cais
  • trefnu naill ai un ymweliad i'r safle neu gyfarfod (yn ôl disgresiwn y Swyddog Achos)
  • darparu ymateb ysgrifenedig

Manylion Allweddol

  • Mae ffioedd yn cynnwys yr holl gostau ar gyfer ymchwilio a darparu cyngor ysgrifenedig.
  • Mae'r ffioedd hyn ar wahân i ffioedd ymgeisio. Mae'n rhaid i chi dalu'r ffi ymgeisio lawn o hyd os gwnewch gais ar ôl derbyn cyngor taledig.
  • Nid yw'r gwasanaeth cyn ymgeisio yn gyfrinachol.
  • Bydd angen cais newydd am sgyrsiau neu ymatebion ychwanegol i luniadau newydd.

Rydym yn argymell defnyddio'r gwasanaeth ar gyfer cyngor cychwynnol.

Cyflwyno cais

Cael cymeradwyaeth y Cyngor (CCS) cyn adeiladu. Mae datblygwyr angen cymeradwyaeth SAB ar gyfer draenio a chynllunio.

Gall hepgor y cam hwn arafu pethau ac achosi mwy o broblemau os nad yw'r cynllun draenio'n iawn. Mae gwneud y cam hwn yn gyntaf yn osgoi problemau.

Mae siarad â'r Cyngor yn gynnar yn helpu drwy gyfuno cymeradwyaeth cynllunio a draenio.

Lawrlwythiadau

  • Ffurflen Gais ar gyfer derbyn Cyngor Cyn Ymgeisio ar Systemau Draenio Cynaliadwy am ddatblygiadau newydd (DOCX 236 KB)