Cludiant o'r cartref i'r ysgol - Côd ymarfer
Y Cyngor (CBSCnPT)
Bydd CBSCnPT yn:
- Darparu cymorth teithio lle mae’r Cyngor wedi asesu bod dysgwr yn gymwys, yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru.
- Gall ceisiadau am gymorth teithio (prif ffrwd ac ADY) a dderbynnir yn ystod y tymor ysgol gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith i’w prosesu. Unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo, cysylltir â rhieni/gofalwyr i roi manylion cludiant eu plentyn.
- Sicrhau bod unrhyw offer angenrheidiol ar gyfer cludiant diogel (e.e., sedd car neu glustog hybu gyda chefn uchel) yn cael eu darparu gan y gweithredwr, y Cyngor, neu’r rhieni/gofalwyr, fel y bo’n briodol.
- Sicrhau bod gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr ar gontractau ADY/y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwblhau cyfarfod cwrdd a chyfarch cyn i’r cludiant ddechrau.
- Hwyluso gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) er mwyn sicrhau bod gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr yn addas ar gyfer y rôl. Bydd staff cymeradwy yn derbyn cerdyn adnabod electronig.
- Monitro llwybrau a gwasanaethau cludiant ysgol yn reolaidd. Bydd CCTV mewn rhai cerbydau o bosib, a all gael ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn achosion o gamymddygiad neu ymddygiad amhriodol.
- Adolygu polisïau’n rheolaidd a’u dosbarthu i weithredwyr yn flynyddol.
- Ymchwilio i gwynion a digwyddiadau.
- Sicrhau bod safonau diogelu yn cael eu bodloni.
Proses ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gludiant ysgol ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd (mis Medi) yw 30 Mehefin yn y flwyddyn academaidd flaenorol. Mae’r dyddiad cau hwn yn berthnasol i ymgeiswyr am y tro cyntaf, yn ogystal â disgyblion sydd eisoes yn derbyn cymorth teithio ac sydd angen ailgyflwyno cais oherwydd newid mewn amgylchiadau. Ni ellir gwarantu y bydd trefniadau cludiant ar waith ar ddechrau’r tymor ar gyfer ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau hwyr yn parhau i gael eu prosesu, a bydd rhieni/gofalwyr yn cael gwybod unwaith y gwneir penderfyniad; fodd bynnag, bydd yn ofynnol iddynt wneud eu trefniadau cludiant eu hunain hyd nes y cadarnheir cymeradwyaeth.
Ceisiadau prif ffrwd a gyflwynir cyn y dyddiad cau
- Bydd ceisiadau disgyblion uwchradd a gymeradwywyd yn derbyn llythyr sy’n cadarnhau eu llwybr penodedig, ynghyd â cherdyn bws. Bydd disgyblion cynradd yn derbyn llythyr gyda’u llwybr penodedig, a rhaid dangos y llythyr hwn i’r gyrrwr ar ddiwrnod cyntaf y teithio. Os nad ydych wedi derbyn manylion cludiant eich plentyn bythefnos cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd, anfonwch e-bost at passengertransport@npt.gov.uk
- Bydd yr adran Cludiant Teithwyr yn anfon cyfathrebiad at rieni/gofalwyr ar gyfer disgyblion sy’n mynychu sefydliadau prif ffrwd, gan ddarparu manylion am y darparwr cludiant a threfniadau amserlenni bysiau.
Ceisiadau ADY a gyflwynir cyn y dyddiad cau
- Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn llythyr/e-bost gyda manylion y darparwr cludiant. Rhaid i rieni/gofalwyr gysylltu’n uniongyrchol â’r darparwr cludiant i drefnu cyfarfod cwrdd a chyfarch gyda’r criw cludiant. Os nad ydych wedi derbyn manylion cludiant eich plentyn bythefnos cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd, anfonwch e-bost at passengertransport@npt.gov.uk
- Darparwch gymaint o wybodaeth berthnasol â phosib wrth gwblhau’r cais am gludiant, gan gynnwys anghenion penodol a gwybodaeth cyswllt mewn argyfwng. Mae’n bwysig eich bod yn hysbysu’r adran Cludiant Teithwyr am unrhyw newidiadau ac i beidio â chysylltu’n uniongyrchol â’r gweithredwr.
- Bydd yr adran Cludiant Teithwyr yn anfon cyfathrebiad at rieni/gofalwyr ar gyfer disgyblion sy’n mynychu sefydliadau ADY, gan ddarparu manylion am y darparwr cludiant. Gall rhieni/gofalwyr gysylltu â’r gweithredwr i drefnu cyfarfod cwrdd a chyfarch gyda’r gyrrwr a’r cynorthwy-ydd teithwyr.
- Ni all rhieni/gofalwyr ddewis pa fath o gludiant na phennu cerbydau neu weithredwyr y bydd eu plentyn yn teithio â hwy.
Rhiant/gofalwr
- Wrth deithio ar fws, dylai disgyblion fod wrth y safle cywir o leiaf 5 munud cyn yr amser cyrraedd a drefnwyd. Ar ddiwedd y dydd, rhaid i rieni/gofalwyr disgyblion oedran cynradd fod wrth y safle mewn pryd i gasglu eu plentyn.
- Mae rhieni/gofalwyr yn gyfrifol am sicrhau diogelwch eu plentyn wrth deithio i’r safle bws ac oddi yno.
- Pan fo cludiant o ddrws i ddrws ar waith, dylai rhieni/gofalwyr (a disgyblion) fod yn barod a chadw golwg am y tacsi/bws mini. Rhaid i riant/gofalwr hebrwng y disgybl i’r cerbyd ac oddi yno, gan na ellir gadael teithwyr eraill heb oruchwyliaeth. Bydd y tacsi/bws mini yn aros am uchafswm o 5 munud os nad yw’r disgybl yn barod.
- Mae rhieni/gofalwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu plentyn yn barod ar gyfer cludiant ar yr amser a gytunwyd.
- Rhaid i oedolyn cyfrifol fod yn bresennol yn y cyfeiriad cartref neu wrth y safle bws pan fydd y disgybl yn dychwelyd o’r ysgol.
- Os oes cludiant o ddrws i ddrws ar waith ac os yw eich plentyn yn sâl neu’n methu mynd i’r ysgol, cysylltwch â’r darparwr cludiant cyn gynted â phosib er mwyn osgoi teithiau diangen neu oedi i ddisgyblion eraill.
- Mae rhieni/gofalwyr yn gyfrifol am annog ymddygiad da ar gludiant ysgol. Gall camymddwyn yn fwriadol arwain at gamau disgyblu, gan gynnwys tynnu cludiant yn ôl.
Gweithredwyr cludiant
Mae gweithredwyr cludiant yn gyfrifol am ddarparu cludiant ysgol yn ddiogel, yn unol ag Amodau’r Cytundeb ac unrhyw weithdrefnau rheoli traffig perthnasol.
- Rhaid i staff cymeradwy yn unig weithredu cytundebau cludiant ysgol.
- Rhaid i bob gweithiwr wisgo’n briodol a chario ei gerdyn adnabod ar bob achlysur wrth ddarparu cludiant ysgol.
- Gall hyfforddiant gael ei gynnig o bryd i’w gilydd i staff cludiant ysgol. Sicrhewch fod eich staff yn ymwybodol o unrhyw hyfforddiant a ddarperir gan y Cyngor ac yn ei fynychu.
- Rhaid i’r gweithredwr sicrhau bod pob gyrrwr a chynorthwy-ydd teithwyr yn cwblhau’r cwrs hyfforddi diogelu ar-lein.
- Dylai llwybrau ddechrau o’r man casglu sydd bellaf o’r ysgol a rhedeg yn y drefn wrthdro ar gyfer y daith ddychwelyd yn y prynhawn.
- Rhaid i staff fod yn gymwys i ddefnyddio’r holl offer, gan gynnwys gweithredu lifftiau cefn a sicrhau cadeiriau olwyn. Cyfrifoldeb y gweithredwr yw sicrhau bod staff wedi’u hyfforddi’n briodol.
- Rhaid i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr sy’n gweithredu llwybrau ADY gario manylion cyswllt argyfwng ar gyfer y gweithredwr, y Cyngor, yr ysgol a’r disgyblion ar y cerbyd, a rhaid iddynt fod yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau i’w dilyn mewn argyfwng (gan gynnwys salwch, damwain neu fethiant cerbyd).
- Rhaid i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr sy’n gweithredu llwybrau prif ffrwd gario manylion cyswllt argyfwng ar gyfer y gweithredwr, y Cyngor a’r ysgol, a rhaid iddynt fod yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau i’w dilyn mewn argyfwng (gan gynnwys salwch, damwain neu fethiant cerbyd).
Gyrwyr a Chynorthwywyr Teithwyr
Mae cynorthwywyr teithwyr a gyrwyr yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau cludiant diogel a chyfforddus i bobl ifanc. I lawer o ddisgyblion ag ADY (a’u rhieni/gofalwyr), mae’r daith i’r ysgol yn rhan bwysig ac annatod o’r diwrnod ysgol.
- Rhaid meddu ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) a drefnir gan yr adran Cludiant Teithwyr cyn gweithio ar gludiant ysgol.
- Wrth adnewyddu eich GDG, dechreuwch y broses o leiaf 90 diwrnod cyn y dyddiad dod i ben.
- Cynnal safon uchel o broffesiynoldeb ar bob achlysur a pharchu cyfrinachedd gwybodaeth am ddisgyblion a’u teuluoedd.
- Cydymffurfio â Pholisi Diogelu’r Cyngor ar bob achlysur.
- Rhaid i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr gynnal agwedd broffesiynol a chwrtais ar bob achlysur, gan gynnwys defnyddio iaith briodol a chynnal cyfrinachedd.
- Rhaid i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr fod yn gyfarwydd â’r llwybr, y mannau casglu a’r ysgol.
- Rhaid i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr feddu ar lefel briodol o allu yn y Gymraeg a/neu’r Saesneg er mwyn cyfathrebu â’r plant a’u cefnogi. Mae cyfathrebu clir a chyfrifoldebau diogelu’n ganolog i’r rôl.
- Defnyddiwch iaith briodol sy’n addas i’w hoedran, a pheidiwch â defnyddio rhegfeydd. Mae'n bosib y bydd gan lawer o ddisgyblion anawsterau cyfathrebu, felly siaradwch yn araf ac yn glir, a sicrhewch eich bod yn wynebu’r disgybl wrth siarad.
- Peidiwch â thrafod materion o natur amhriodol gyda disgyblion.
- Dylech osgoi cyswllt corfforol â disgyblion oni bai fod ei angen er mwyn sicrhau diogelwch y disgybl.
- Dylech drin pob disgybl yn gyfartal ac yn gyson. Lle bo’n bosib, dilynwch gyngor yr ysgol (a chyngor rhieni/gofalwyr) ar reoli ymddygiad disgyblion.
- Dylech osgoi gwrthdaro, ond sicrhau yr adroddir am unrhyw achosion o fwlio, trais neu ymddygiad amhriodol brydlon i’r ysgol, rhieni/gofalwyr (fel y bo’n briodol), a llenwi ffurflen adrodd am ddigwyddiad y Cyngor a’i hanfon at passengertransport@npt.gov.uk
- Dylech gynnal ffiniau proffesiynol clir. Mae meithrin perthynas dda â disgyblion, cydweithwyr a rhieni/gofalwyr yn bwysig, ond gall perthnasoedd rhy cyfarwydd wneud newidiadau angenrheidiol i lwybrau/staffio’n anos a gall roi staff mewn perygl o gyhuddiadau.
- Peidiwch â bwyta, yfed, ysmygu na fepio ger y cerbyd neu y tu mewn iddo nac ar dir yr ysgol.
- Gweithredwch llwybrau fel y nodir yn y cytundeb. Peidiwch â newid amseroedd casglu, mannau casglu, rhestrau teithwyr na chludo plant eraill oni bai y cytunir ar hynny gyda’r Adran Cludiant Teithwyr.
- Cyrhaeddwch y safle/man casglu ar yr amser dynodedig. Os nad yw plentyn yn barod, peidiwch ag aros mwy na 5 munud.
- Defnyddiwch oleuadau rhybuddio am berygl wrth i ddisgyblion fynd ar y cerbyd neu ddod oddi arno (pan fo’n ddiogel ac yn briodol gwneud hynny).
- Rhaid i’r gweithredwr gymryd camau rhesymol i sicrhau diogelwch teithwyr nid yn unig tra bod disgyblion yn y cerbyd, ond hefyd wrth iddynt fynd i mewn iddo neu ei adael (e.e., peidiwch ag agor y drysau nes bod y cerbyd wedi stopio).
- Cadwch ddrysau’r cerbyd ar gau oni bai bod y cerbyd wedi dod i stop llwyr. Ni ddylai disgyblion weithredu drysau’r cerbyd.
- Os yw gollwng disgybl yn gofyn am groesi ffordd ac na ellir osgoi hyn, rhaid goruchwylio disgyblion wrth iddynt groesi’r ffordd.
- Sicrhewch fod disgyblion wedi eistedd yn ddiogel ac yn gwisgo gwregysau diogelwch cyn i’r cerbyd symud. Rhaid i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr hefyd wisgo gwregysau diogelwch.
- Sicrhewch fod teithwyr ac unrhyw fagiau neu offer wedi’u sicrhau’n briodol cyn symud, a bod teithwyr yn gyfforddus (e.e., ddim yn rhy boeth nac yn rhy oer).
- Dylai cynorthwywyr teithwyr eistedd lle gallant oruchwylio ac ymgysylltu orau â disgyblion yn ystod y daith.
- Efallai y bydd angen i gynorthwywyr teithwyr helpu’r gyrrwr gyda symudiadau bacio’n ôl pan fo angen.
- Rhaid gyrru cerbydau’n ofalus ac yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr. Rhaid i yrwyr beidio â defnyddio ffonau symudol oni bai eu bod yn llawrydd (hands‑free).
- Rhaid i staff sy’n darparu cludiant ysgol i ddisgyblion ADY fod yn gymwys i ddefnyddio offer perthnasol (gan gynnwys rampiau, lifftiau, gwregysau diogelwch, harneisiau a systemau atal cadeiriau olwyn/deiliaid). Cyfrifoldeb y gweithredwr yw sicrhau bod staff yn derbyn hyfforddiant digonol.
- Rhaid i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr sy’n gweithredu llwybrau ADY gario manylion cyswllt argyfwng ar gyfer y gweithredwr, y Cyngor, yr ysgol a’r disgyblion ar y cerbyd, a rhaid iddynt fod yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau i’w dilyn mewn argyfwng (gan gynnwys salwch, damwain neu fethiant cerbyd).
- Rhaid i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr sy’n gweithredu llwybrau prif ffrwd gario manylion cyswllt argyfwng ar gyfer y gweithredwr, y Cyngor a’r ysgol, a rhaid iddynt fod yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau i’w dilyn mewn argyfwng (gan gynnwys salwch, damwain neu fethiant cerbyd).
- Rhaid i yrwyr gynnal archwiliad diogelwch cerbyd bob dydd.
- Rhaid i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr adrodd am ddamweiniau neu ddigwyddiadau sy’n ymwneud â cherbyd a digwyddiadau o ymddygiad gwael gan ddefnyddio ffurflen adrodd am ddigwyddiad y Cyngor o fewn 24 awr.
- Rhaid i yrwyr gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau rheoli traffig pob ysgol.
- Sicrhewch fod disgyblion yn cael eu trosglwyddo i aelod o staff yr ysgol neu riant/gofalwr, fel y bo’n briodol.
- Rhaid i yrwyr wirio’r cerbyd ar ôl pob taith i sicrhau nad oes unrhyw ddisgybl wedi’i adael arno ac i wirio am eiddo coll.
- Rhaid i’r gweithredwr sicrhau bod y gyrrwr yn gallu bod mewn cysylltiad uniongyrchol â’i depo cartref (ac y gellir cysylltu ag ef) drwy ddulliau diogel a chyfreithlon yn ystod gwasanaeth dan gontract.
Cerbydau
- Rhaid gweithredu’r cytundeb yn unol â’r fanyleb (h.y., gan ddefnyddio cerbyd o faint/math priodol). Os nad oes cerbyd addas ar gael (e.e., oherwydd methiant cerbyd), rhaid i’r gweithredwr hysbysu’r Awdurdod ar unwaith.
- Rhaid cadw cerbydau ac offer yn lân. Rhaid gwirio offer yn rheolaidd i sicrhau nad yw wedi’i ddifrodi.
- Rhaid i gerbydau sy’n gweithredu contractau cludiant ysgol arddangos rhif y llwybr a bod ganddynt ffôn symudol neu radio i gynnal cysylltiad â depo’r gweithredwr.
- Rhaid i fysiau mini a bysiau teithio sy’n cludo disgyblion i’r ysgol neu oddi yno arddangos arwyddion melyn adlewyrchol “Bws Ysgol” (yn cynnwys dau silwét du o blant) ar flaen ac ar gefn y cerbyd.
- Rhaid fod gan cerbydau becyn cymorth cyntaf addas a diffoddwr tân sydd o fewn y dyddiad dilys. Rhaid i’r rhain fod ar gael yn barod i’w defnyddio, wedi’u marcio’n glir fel pecyn cymorth cyntaf/diffoddwr tân, yn dangos rhif manyleb BSI priodol, ac wedi'u cynnal mewn cyflwr da. Rhaid i farc cofrestru’r cerbyd gael ei ddangos yn glir ar y pecyn cymorth cyntaf a’r diffoddwr tân.
Cod Ymddygiad Disgyblion
- Cyrhaeddwch y man casglu dynodedig neu’r safle bws o leiaf 5 munud cyn yr amser casglu a drefnwyd.
- Sefwch ymhell yn ôl oddi wrth y ffordd ac ewch ar y cerbyd mewn modd trefnus.
- Ar gyfer disgyblion uwchradd prif ffrwd, sicrhewch fod eich cerdyn teithio’n barod i’w ddangos i’r gyrrwr. Bydd y gyrrwr yn adrodd am y rheini sy’n mynd ar y cerbyd heb cerdyn i’r Cyngor, a all arwain at wrthod cludiant.
- Eisteddwch i lawr yn brydlon ac arhoswch yn eich sedd.
- Pan fo gwregysau diogelwch wedi’u gosod, rhaid i chi eu gwisgo (mae hyn yn ofyniad cyfreithiol).
- Peidiwch â thynnu sylw’r gyrrwr.
- Peidiwch â gweiddi, bwlio, ymladd, taflu gwrthrychau na symud o gwmpas y cerbyd.
- Arhoswch i’r cerbyd stopio’n llwyr ac i’r gyrrwr/cynorthwy-ydd teithwyr agor y drysau cyn mynd arno neu oddi arno.
- Ar ôl dod oddi ar y cerbyd, camwch i ffwrdd ohono ac arhoswch mewn man diogel.
- Peidiwch byth â chroesi’r ffordd o flaen nac y tu ôl i’r cerbyd.
- Peidiwch â bwyta, yfed, ysmygu, fepio na chario alcohol/cyffuriau neu sylweddau gwaharddedig eraill.
Gweithdrefnau’r Gweithredwr Cludiant ar gyfer argyfyngau/digwyddiadau
Rhieni/gofalwyr absennol
- Os nad oes rhiant/gofalwr (neu oedolyn cyfrifol y cytunwyd arno) yn bresennol yn y cyfeiriad cartref neu wrth y safle bws ar ddiwedd y diwrnod ysgol, rhaid i’r darparwr cludiant gysylltu â’r Adran Cludiant Teithwyr i gael cyngor.
- Os caiff disgybl ei gludo i’w gyfeiriad cartref ac nad oes rhiant/gofalwr yn bresennol, gadewch nodyn yn cadarnhau eich bod wedi bod yno, ynghyd â rhif ffôn cyswllt.
- Parhewch i weithredu gweddill y llwybr er mwyn osgoi oedi i ddisgyblion eraill, a dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan yr Adran Cludiant Teithwyr.
- Efallai y cewch eich cynghori i ddychwelyd y disgybl i’r ysgol. Cysylltir o bosib â’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Heddlu hefyd, gan na all gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr gadw disgyblion gyda nhw ar ôl cwblhau’r llwybr.
- Gall digwyddiadau ailadroddus arwain at dynnu’r ddarpariaeth cludiant yn ôl.
Pryderon eraill ynghylch lles plentyn
Os nad yw plentyn yn barod wrth y man casglu’n gyson, neu os oes gennych unrhyw bryderon eraill ynghylch lles plentyn, adroddwch am eich pryderon ar unwaith i’r Adran Cludiant Teithwyr.
Fel rhywun sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, rydych yn chwarae rhan bwysig wrth eu cadw’n ddiogel a nodi arwyddion o esgeulustod, camdriniaeth neu niwed. Byddwch yn effro i:
- Arwyddion corfforol o gamdriniaeth neu esgeulustod (e.e., cleisiau, llosgiadau neu hylendid gwael).
- Newidiadau mewn ymddygiad neu agwedd (e.e., plentyn sydd fel arfer yn siaradus yn mynd yn dawel ac yn encilgar, neu ymddygiad arall nad yw’n addas ar gyfer ei oedran).
- Plentyn yn dweud rhywbeth wrthoch sy’n peri pryder.
Ysgolion/Coleg
- Rhaid i ysgolion sicrhau eu bod yn bodloni eu rhwymedigaethau o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) Llywodraeth Cymru a hyrwyddo’r Cod Ymddygiad Teithio i ddisgyblion.
- Rhaid i ysgolion sicrhau bod staff priodol ar gael i dderbyn disgyblion yn y bore ac i oruchwylio disgyblion ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
- Dylai ysgolion sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol o unrhyw drefniadau ar gyfer mynd ar y cerbyd/oddi arno a/neu drosglwyddo disgyblion. Rhaid darparu’r wybodaeth hon hefyd i Adran Cludiant Teithwyr y Cyngor. Dylai ysgolion hefyd helpu i sicrhau nad yw mynedfeydd yr ysgol yn cael eu rhwystro gan barcio amhriodol gan rieni/staff ar adegau gollwng a chasglu.
- Rhaid i ysgolion sicrhau bod staff cludiant y Cyngor yn cael unrhyw wybodaeth berthnasol am anghenion disgyblion a’u gallu i deithio, yn enwedig pan fo amgylchiadau’n newid.
- Dylid atgoffa disgyblion cynradd a disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i ddefnyddio’r toiled cyn y daith yn y prynhawn. Ni ddylid rhoi disgyblion ar gludiant os ydynt mewn gofid neu wedi cynhyrfu.
- Pan fydd ysgol yn cau’n gynharach na’r arfer, yr ysgol sy’n gyfrifol am sicrhau bod rhiant/gofalwr (neu oedolyn cyfrifol arall) ar gael i dderbyn disgyblion cynradd a disgyblion ADY.
- Rhaid i ysgolion hysbysu Adran Cludiant Teithwyr y Cyngor a’r Tîm Cefnogi Plant a Theuluoedd am ddiwrnodau HMS a chau ysgolion a gynlluniwyd cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, neu cyn gynted â phosib, er mwyn osgoi costau cludiant diangen.
- O bryd i’w gilydd, bydd staff Cludiant Teithwyr y Cyngor yn cynnal gwiriadau ar gerbydau cludiant ysgol, gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr. Fodd bynnag, nid ydynt yn gallu arsylwi ar drefniadau’n ddyddiol. Gall ysgolion gynorthwyo drwy roi gwybod am broblemau neu rannu adborth â’r Adran Cludiant Teithwyr, er enghraifft:
- Bod yn hwyr yn rheolaidd.
- Cerbydau neu offer anaddas.
- Pryderon ynghylch ymddygiad gyrwyr neu gynorthwy-ydd teithwyr.
- Gwasanaeth rhagorol neu arfer da.
CCTV
Gall CCTV fod ar waith ar gerbydau sydd o dan gontract gyda’r Cyngor. Gellir defnyddio hyn i ddiogelu pob teithiwr ac aelod staff, gan gynnwys y gyrrwr a’r cynorthwy-ydd teithwyr, a gall helpu i adnabod ac ymchwilio i ddigwyddiadau yr adroddir amdanynt (gan gynnwys ymddygiad nad yw’n bodloni’r safonau disgwyliedig). Dim ond pan fydd digwyddiad wedi’i adrodd y bydd y Cyngor yn adolygu deunydd CCTV.
Tywydd eithafol neu gau mewn argyfwng
- Bydd ysgolion yn hysbysu’r Tîm Cefnogi Plant a Theuluoedd os bydd yr ysgol yn cau. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor.
- Y gweithredwr fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a fydd llwybr yn gweithredu yn ystod tywydd garw.
- Pan fydd y gweithredwr yn cynnal y daith yn y bore, dylai’r daith brynhawn hefyd weithredu oni bai bod yr amodau’n gwaethygu’n sylweddol yn ystod y dydd neu fod rhagolygon yn dangos y byddant yn gwaethygu’n gyflym.
- Os na all y daith yn y bore weithredu oherwydd tywydd garw, rhaid i weithredwyr hysbysu ysgolion a’r Adran Cludiant Teithwyr ar unwaith.
- Pan nad yw’r daith yn y bore’n gweithredu, rhaid i weithredwyr ystyried a all amodau wella’n ddigonol fel y bydd yn ymarferol cynnal taith yn y prynhawn. Pan fydd rhieni/gofalwyr wedi mynd â disgyblion i’r ysgol, rhaid i rieni/gofalwyr disgyblion ADY neu ddisgyblion sy’n teithio mewn tacsi hysbysu’r gweithredwr bod eu plentyn wedi mynychu ac y bydd angen cludiant adref arno. Ni fydd disgwyl i weithredwyr gludo disgybl adref os bydd asesiad yn cadarnhau nad yw’n ymarferol cynnal taith yn y prynhawn.
- Os bydd amodau’r tywydd yn gwaethygu yn ystod y dydd, gall penaethiaid benderfynu cau’r ysgol yn gynnar. Dan yr amgylchiadau hyn, gofynnir i weithredwyr ddarparu cludiant cyn gynted â phosib. Pan fydd ysgol yn cau’n gynharach na’r arfer, yr ysgol sy’n gyfrifol am sicrhau bod rhiant/gofalwr (neu oedolyn cyfrifol arall) ar gael i dderbyn disgyblion cynradd a disgyblion ADY.