Cofrestru fel Gweithredwr Sgip
Trwydded gweithredwr sgip
Mae angen trwydded sgip arnoch i osod sgip adeiladwr ar y briffordd. Mae hyn yn ofynnol gan Adran 139 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
Amodau ar gyfer cofrestru
Er mwyn cofrestru fel gweithredwr sgipiau, mae angen y wybodaeth ganlynol ar yr Awdurdod hwn:-
- Enw cyswllt
- Cyfeiriad post y cwmni
- Rhif ffôn cyswllt
- Rhif argyfwng 24 awr
- Rhif ffacs
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif trwydded cludwr gwastraff (cliciwch yma am wybodaeth - Asiantaeth yr Amgylchedd)
- Copi o dystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus - isafswm yswiriant o £5 miliwn (peidiwch ag anfon y gwreiddiol).
Cost y drwydded
Nid oes tâl i gofrestru.
Hyd y cofrestriad
Dim ond cyn belled â bod eich yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a thrwydded cludwr gwastraff yn gyfredol y mae eich cofrestriad yn ddilys.
Caniatâd deallus
Ydi. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel pe bai eich cais wedi’i ganiatáu os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn 15 diwrnod gwaith i dderbyn cais wedi’i gwblhau’n llawn.
Amser prosesu
Fel arfer caiff ceisiadau eu prosesu o fewn pum diwrnod gwaith.
Proses apêl
Nid oes gweithdrefn apelio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw benderfyniadau, cysylltwch â’r Adran Gwaith Stryd ar 01639 686338.
Newid amgylchiadau
Cysylltwch â'r adran Gwaith Stryd i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.
Cysylltwch
Ffordd Brunel Llansawel Castell-nedd Port Talbot SA11 2GG pref