Gwaith arall ar y Briffordd
Mae angen caniatâd ar fusnesau i ddefnyddio'r briffordd ar gyfer gwaith adeiladu. Mae hyn yn ofynnol gan Ddeddf Priffyrdd 1980.
Mae hyn yn cynnwys cloddio, hysbysfyrddau, mynediad i beiriannau, cynwysyddion storio, a swyddfeydd safle.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r adran Gwaith Stryd.
Amodau ar gyfer cofrestru
Mae angen £5 miliwn mewn yswiriant ar fusnesau a rhaid iddynt ddilyn amodau ar gyfer:
- lleoliad
- goleuo
- gwelededd
- mynediad i gerddwyr
Cysylltwch â'r adran Gwaith Stryd am ragor o wybodaeth.
Cost y drwydded
Y ffi am drwydded gwaith priffyrdd yw £103.50. Mae angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch.
Os dymunwch ymestyn y drwydded ar ôl y cyfnod cychwynnol o 28 diwrnod rhaid i chi wneud cais am hawlen newydd.
Amser prosesu
Mae angen o leiaf dau ddiwrnod gwaith arnom i wirio'r safle a phrosesu'r cais.
Fel arfer caiff ceisiadau eu prosesu o fewn 5 diwrnod gwaith.
Caniatâd deallus
Nac ydyw. Rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei ganiatáu.
Os na fyddwch yn clywed yn ôl mewn amser rhesymol, cysylltwch â'r adran Gwaith Stryd.
Proses apêl
Gwnewch gais am drwydded
Dylid anfon llythyrau o ddiddordeb i'r adran strydoedd neu gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol i drafod eich cynigion.
Ffordd Brunel Llansawel Castell-nedd Port Talbot SA11 2GG pref