Trwydded caffi stryd
Mae Deddf Priffyrdd 1980, Adran 115, yn caniatáu i'r Cyngor roi trwyddedau ar gyfer caffis stryd. Mae hyn yn cynnwys sefydlu a rhedeg mannau lluniaeth ar y briffordd.
Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 wedi diweddaru'r adran hon.
Math o drwydded
Mae'r Cyngor yn rhoi trwyddedau i osod byrddau a chadeiriau y tu allan i gaffis a thafarndai i weini bwyd a diod. Bydd hyn yn helpu busnesau i ehangu'n gost-effeithiol ac yn rhoi mwy o opsiynau i gwsmeriaid.
Mae Adain Drwyddedu’r Cyngor yn rheoli trwyddedau ar gyfer stondinau stryd a lleoedd sy’n gwerthu alcohol. Os yw lle sy'n gwerthu alcohol am roi byrddau a chadeiriau y tu allan, mae angen trwydded ychwanegol arnynt.
Amodau ar gyfer cofrestru
Mae caffis stryd yn ychwanegu at liw ac awyrgylch trefi yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Cyngor yn awyddus i annog, lle maent wedi'u sefydlu, eu bod o ansawdd da ac wedi'u dylunio'n briodol. Bydd y cyngor yn barnu pob cais am drwydded drwy ystyried ffactorau fel:
- a yw'r lleoliad mewn ardal i gerddwyr ai peidio
- maint y traffig cerddwyr a cherbydau yn y lleoliad
- lled y palmant sydd ar gael
- dodrefn stryd presennol yn y cyffiniau
- yr angen i sicrhau mynediad dirwystr i gerddwyr
- mynediad bob amser ar gyfer y gwasanaethau brys
Rhaid i fusnes gael o leiaf £2 filiwn o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus. Rhaid iddynt hefyd barchu iechyd a diogelwch y cyhoedd, a dangos gofal tŷ da.
Gwiriwch y Canllawiau Caffi Stryd am fanylion llawn ar wneud cais am drwydded a sefydlu'r ardal.
Cost y drwydded
Ar hyn o bryd nid oes tâl am wneud cais am drwydded caffi stryd.
Hyd y drwydded
Mae trwyddedau caffi stryd yn ddilys am 12 mis. Os dymunwch ymestyn y drwydded ar ôl y cyfnod cychwynnol o 12 mis rhaid i chi wneud cais am drwydded newydd.
Amser prosesu
Fel arfer caiff ceisiadau eu prosesu o fewn 28 diwrnod.
Caniatâd dealledig
Ydi. Os na fyddwch yn clywed yn ôl o fewn 28 diwrnod, caiff eich cais ei gymeradwyo.
Proses apêl
Nid oes gweithdrefn apelio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw benderfyniadau, cysylltwch â'r adran Gwaith Stryd.
Gwnewch gais am drwydded
Mae ffurflenni cais ar gael yn y fformatau canlynol:
- lawrlwythwch ffurflen gais caffi stryd
- mae ffurflenni cais wedi'u hargraffu ymlaen llaw hefyd ar gael drwy'r post.
Rhaid llenwi ffurflenni cais yn llawn a'u dychwelyd i'r Adran Gwaith Stryd.
Cysylltwch
Lawrlwythiadau