Atafaelu cerbydau
Gallwn atafaelu cerbydau, trelars neu offer symudol sydd wedi cael ei:
- ddefnyddio ar gyfer tipio anghyfreithlon
- yrru gan rywun nad yw'n gludwr gwastraff cofrestredig
- ddefnyddio i drosglwyddo gwastraff i rywun nad yw wedi’i gofrestru fel cludwr gwastraff
Ar ôl i ni atafaelu'r cerbyd
Pan fyddwn yn atafaelu cerbyd rydym yn gosod hysbysiad ar ein gwefan ac yn ein swyddfeydd o fewn diwrnod. Rydyn ni hefyd yn dweud wrth yr heddlu a pherchennog y cerbyd.
Gallwn gadw'r cerbyd am hyd at 15 diwrnod gwaith i ymchwilio.
Os byddwn yn dechrau achos llys, efallai y gallwn gadw'r cerbyd am gyfnod yr achos.
Hysbysiadau atafaelu presennol
Gallwch weld yr hysbysiadau atafaelu presennol wedi'u rhestru isod.