Hepgor gwe-lywio

Gollwng sbwriel yn anghyfreithlon

Tipio anghyfreithlon yw gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon ar dir neu ddŵr nad oes ganddo drwydded i'w dderbyn.

Gall yr eitemau gynnwys:

  • gwastraff adeiladu
  • cemegau gwenwynig
  • nwyddau trydanol
  • dodrefn

Os ydych chi'n gweld gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon

Peidiwch:
  • cyffwrdd neu gael gwared ar y gwastraff. Gall gynnwys chwistrelli, gwydr wedi torri neu sylweddau peryglus eraill
  • tarfu ar y safle, oherwydd gallai tystiolaeth helpu i adnabod y tramgwyddwyr. Efallai y bydd angen i chi roi tystiolaeth yn y llys os gwnewch hynny
  • mynd at unrhyw un y gwelwch chi'n tipio'n anghyfreithlon

Rhowch wybod am dipio anghyfreithlon

Gallwch roi gwybod am dipio anghyfreithlon ar-lein.

Gallwch olrhain eich adroddiad os oes gennychgyfrif fyCNPT.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnom:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad
  • eich manylion cyswllt
  • manylion am y broblem
  • llun os oes gennych un

Dewiswch ddelwedd i roi gwybod am y broblem:

Bagiau wedi'u rhoi allan yn rhy gynnar neu'n rhy hwyr

Llawer o wastraff cartref yn cael ei roi allan i'w gasglu

Mae timau casglu wedi gadael sticeri ar fagiau

Eitemau mawr gan gynnwys dodrefn a gwastraff adeiladu mewn strydoedd a lonydd cefn

Bagiau, blychau, eitemau swmpus a gwastraff adeiladu mewn lonydd gwledig a chaeau

Eitemau mawr a gwastraff mewn bagiau gyda'i gilydd mewn strydoedd a lonydd cefn

Gwaredu gwastraff yn gyfrifol

Gallwch gael gwared ar eich gwastraff yn gyfrifol drwy:

Cludwr gwastraff cofrestredig

Os ydych yn llogi rhywun i gael gwared ar eich gwastraff, rhaid i chi wirio:

  • mae ganddynt drwydded i wneud hynny
  • lle byddant yn gadael y gwastraff

Rydym yn eich cynghori i:

  • gofyn am dderbynneb neu ddogfen trosglwyddo gwastraff (rhaid os ydych yn fusnes)
  • gwnewch nodyn o rif y cerbyd sy'n cael gwared ar eich gwastraff
  • talu trwy drosglwyddiad banc

Gallwch wirio'r gronfa ddata cludwyr gwastraff  i ddod o hyd i gludwyr gwastraff cofrestredig.

Rhannu eich Adborth