Rhowch wybod am lifogydd
Mae glanhau a chynnal a chadw asedau draenio yn gyfrifoldeb i:
- CNPT
- Dŵr Cymru (DCWW)
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Bydd pwy y mae angen i chi gysylltu ag ef yn dibynnu ar beth sy'n llifo.
Ffyrdd, draeniau cyhoeddus, dŵr ar y wyneb, dŵr yn y ddaear neu gyrsiau dŵr cyffredin
Defnyddiwch ein ffurflen i roi gwybod i ni am:
- llifogydd y tu mewn neu'r tu allan i eiddo
- draen ymyl ffordd wedi'i rwystro
- ffordd dan ddŵr
- cwlfert / nant / wedi'i rhwystro
Dylech hefyd ddweud wrthym os oes sefyllfa y credwch y gallai arwain at lifogydd
Carthffosydd, prif gyflenwad dŵr neu ddraeniau cartref
Cysylltwch â Dŵr Cymru i roi gwybod am:
- carthffosydd wedi'u blocio
- prif gyflenwad dŵr wedi byrstio
Gwasanaethau Dŵr ac argyfyngau
Gwasanaethau Carthffosiaeth ac argyfyngau
Prif afonydd neu gronfeydd dŵr
Ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru i roi gwybod am lifogydd a achosir gan brif afonydd neu gronfeydd dŵr.
Cyfoeth Naturiol Cymru