Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun Lliniaru Llifogydd Nant Grandison

Trosolwg

Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd Nant Grandison ar y cam achos busnes llawn a dylunio manwl ar hyn o bryd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) wedi bod yn gweithio gyda'r ymgynghoriaeth peirianneg, AtkinsRéalis, i ddatblygu'r cynllun hwn. Maent wedi datblygu dull sy'n seiliedig ar grynhoi dŵr gyda'r bwriad o leihau'r risg o lifogydd yn Llansawel.  

Mae'r cam dylunio manwl mewn perthynas â Chynllun Lliniaru Llifogydd Nant Grandison wedi cynnwys dadansoddiad helaeth, gan gynnwys arolygon a gwaith archwilio ar draws y dalgylch. Mae hyn wedi arwain at gael opsiwn a ffefrir ar gyfer dyluniad y datblygiad er mwyn paratoi ar gyfer y cam adeiladu.  

Mae'r opsiwn a ffefrir yn cynnwys gosod cwlfert newydd gyda gallu draenio gwell. Byddai hyn wedi'i leoli ar hyd y briffordd ac ym mannau gwyrdd agored yn Llansawel.  

Yn ogystal, mae'r cynllun yn cynnig adeiladu cwlfert lliniaru llifogydd newydd ynghyd â basn gwanhau dwr storm ym Mharc Jersey. Bydd hyn yn cynyddu gallu hydrolig presennol y system draenio dŵr wyneb. Bydd y cwlfert newydd yn cysylltu â'r cwrs dŵr presennol ymhellach i lawr yr afon cyn gollwng i mewn i Afon Nedd. Bydd y cynllun arfaethedig yn darparu'r gallu i liniaru llifogydd hyd at ac yn cynnwys y Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol o 1%.  

Yn ystod y cam dylunio manwl, gwnaed arolygon ecolegol er mwyn sicrhau yr ystyriwyd yr holl welliannau ecolegol ac amgylcheddol. Nodwyd bod rhai rhywogaethau estron goresgynnol megis canclwm Japan yn bresennol yn ardaloedd is y dalgylch. Bydd rheoli a thrin rhywogaethau estron goresgynnol yn chwarae rôl hanfodol yn y cynllun lliniaru llifogydd gan gefnogi cadernid ecolegol a gwella'r amgylchedd naturiol.  

Mae Parc Jersey hefyd yn adnabyddus am ei dreftadaeth ddiwydiannol, sy'n cynnwys olion system rheilffordd o'r 19eg ganrif. Ystyriwyd yr asesiadau treftadaeth a'r arolygon ecolegol fel rhan o'r opsiwn dyluniad a ffefrir. O ganlyniad i'r cynllun hwn, bydd mannau gwyrdd a threftadaeth leol yn cael eu gwella'n sylweddol. Bydd y gwaith uwchraddio arfaethedig i'r ardal chwarae ym Mharc Jersey hefyd yn gwella'r lleoliad sy'n addas i deuluoedd i'r gymuned leol yn Llansawel.  

Disgwylir i gam adeiladu Cynllun Lliniaru Llifogydd Nant Grandison ddechrau yn 2026-27. Rhaid nodi bod cynnydd y cynllun i'r cam adeiladu'n dibynnu'n fawr ar argaeledd cyllid oddi wrth y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Ni allwn roi unrhyw amserlenni pendant ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar hyn o bryd nac unrhyw sicrwydd y bydd y cynllun hwn yn mynd rhagddo nes y ceir eglurder pellach mewn perthynas â chyllid y Llywodraeth.

Cynlluniau

Lawrlwythiadau (yn Saesneg)

  • Proposed Scheme Overview (Sheet 1 of 2) (PDF 2.11 MB)
  • Proposed Scheme Overview (Sheet 2 of 2) (PDF 2.75 MB)
  • Plan and Long Section - Sheet 1 (PDF 844 KB)
  • Plan and Long Section - Sheet 2 (PDF 908 KB)
  • Plan and Long Section - Sheet 3 (PDF 664 KB)
  • Plan and Long Section - Sheet 4 (PDF 742 KB)
  • Plan and Long Section - Sheet 5 (PDF 555 KB)
  • Plan and Long Section - Sheet 6 (PDF 722 KB)
  • Plan and Long Section - Sheet 7 (PDF 643 KB)
  • Inlet Structure - Cul_0015 - General Arrangement (PDF 379 KB)
  • Inlet Structure - Cul_0015 - General Arrangement (1) (PDF 260 KB)
  • Inlet Structure - Cul_0015 - General Arrangement - Proposed Details Sheet 2 of 3 (PDF 206 KB)
  • Typical Details - Sheet 1 of 3 (PDF 260 KB)
  • Typical Details - Sheet 2 of 3 (PDF 167 KB)
  • Typical Details - Sheet 3 of 3 (PDF 377 KB)
  • Jersey Park - Below Ground Attenuation General Arrangement (Sheet 1 of 2) (PDF 423 KB)
  • Jersey Park - Below Ground Attenuation - Sections (Sheet 1 of 2) (PDF 242 KB)
  • Jersey Park - Below Ground Attenuation - Sections (Sheet 2 of 2) (PDF 235 KB)
  • Jersey Park - Below Ground Attenuation - Drainage Details (Sheet 1 of 2) (PDF 482 KB)
  • Jersey Park - Below Ground Attenuation Drainage Details (Sheet 2 of 2) (PDF 233 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Adroddiadau

Lawrlwythiadau (yn Saesneg)

  • Grandison brook ECIA (PDF 7.55 MB)
  • Grandison Brook GIS (PDF 352 KB)
  • Grandison Brook DBA (PDF 4.20 MB)
  • Grandison Brook HIS (PDF 14.17 MB)
  • Grandison Brook WFD (PDF 7.15 MB)
  • EIA Screening Opinion for issue with app. (PDF 6.83 MB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau