Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Mannau Parcio Unigol i'r Anabl

Rydym yn darparu mannau parcio ar gyfer trigolion â phroblemau symudedd difrifol.

Gellir gwneud eithriadau ar gyfer eraill ar sail angen.

Ni fydd unrhyw leoedd parcio yn cael eu darparu ar gyfer ymwelwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, neu ofalwyr dibreswyl.

Nid ydym yn darparu lleoedd parcio os oes lleoedd parcio yn yr eiddo, fel garej neu dreif.

Darllenwch y ddogfen bolisi am ragor o fanylion.

Proses ymgeisio

Asesiad o allu cerdded

Rhaid dangos prawf o gyflwr meddygol difrifol yr ymgeisydd yn ystod y cyfweliad.

Rhaid i'r dystiolaeth hon ddangos na allant gerdded neu ei bod yn cael anhawster mawr i gerdded. Gellir gwneud eithriadau ar gyfer y rhai heb broblemau symudedd mawr.

Arolwg safle traffig

Os ydych yn gymwys ar sail gallu cerdded, bydd eich cyfeiriad yn cael ei arolygu nesaf.

Rydym yn asesu pob achos yn ôl ei rinweddau unigol, gan ystyried:

  • trefniadau parcio
  • cyfyngiadau presennol
  • argaeledd ar y stryd

Proses gyfreithiol

Unwaith y bydd yr holl feini prawf wedi'u bodloni, byddwn yn ceisio Gorchymyn Rheoleiddio Traffig cyfreithiol. Byddwn yn hysbysu cymdogion cyfagos drwy'r wasg, gan roi cyfle iddynt ymateb.

Os nad oes gwrthwynebiadau, bydd y Gorchymyn Traffig yn cael ei selio. Byddwn yn marcio'r bae ar y ffordd, yn gosod arwydd ac yn rhoi trwydded barcio.

Os cawn wrthwynebiadau dilys, bydd Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd a Phriffyrdd yn gwneud penderfyniad terfynol.

Amserlenni

Oherwydd galw uchel a chyllid cyfyngedig, yr amser aros cyfartalog yw tua 18 mis.

Gwneud cais

Gwnewch ymholiadau cychwynnol i'n Canolfan Gyswllt:   
Ffôn 01639 686868