Teledu Cylch Cyfyng Castell-nedd Port Talbot
Pam fod gennym ni gamerâu teledu cylch cyfyng
Mae'r system TCC yn cynnwys camerâu teledu cylch cyfyng mannau cyhoeddus yng Nghastell-nedd, Port Talbot, Pontardawe a Llansawel. Mae gennym hefyd gamerâu teledu cylch cyfyng ar hyd Glan y Môr Aberafan a thu allan i lyfrgell Baglan.
Trwy ddefnyddio teledu cylch cyfyng, ein nod yw:
- gwella diogelwch y cyhoedd
- cynorthwyo i nodi a lleihau troseddau yn y sir
- lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardaloedd sy'n cael eu monitro o fewn ffiniau'r teledu cylch cyfyng
Gofyn am ffilm
Mae gennych hawl cyfreithiol i ofyn am ffilm ohonoch chi'ch hun. Yr enw ar hyn yw Cais Gwrthrych am Wybodaeth.
Mae TCC Castell-nedd Port Talbot yn cadw ffilmiau am 31 diwrnod.
Gwneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth
Byddwn yn derbyn cais ar lafar ond bydd cais ysgrifenedig yn ein helpu i brosesu eich cais yn fwy rhwydd.
Bydd angen i chi ddarparu:
- dwy ddogfen adnabod swyddogol. Rhaid i'r rhain ddangos eich enw, eich cyfeiriad presennol a'ch dyddiad geni
- manylion am yr union ffilm rydych yn gofyn amdani, gan gynnwys lleoliad, dyddiad ac amser
Lawrlwythiadau
Ymateb i'ch cais
Byddwn yn delio â'ch cais o fewn 28 diwrnod. Os gallwn ddarparu'r ffilm y gofynnwyd amdani, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn trefnu i chi ei dderbyn.
Gallwn wrthod eich cais os:
- mae’n effeithio ar ddiogelu data pobl eraill
- mae'r ffilm y gofynnwyd amdani yn cael ei defnyddio fel rhan o ymchwiliad troseddol
- rydych wedi bod mewn gwrthdrawiad ffordd - byddwn yn delio'n uniongyrchol â'ch cwmni yswiriant
Datganiad preifatrwydd
O dan Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae gan yr adran TCC datganiad preifatrwydd ei hun.