Trwyddedau tymhorol meysydd parcio
Mae'r drwydded hon ar gael i ddefnyddwyr meysydd parcio talu ac arddangos.
Mae trwyddedau'n ddilys am 1, 3, 6, 9, neu 12 mis o'r dyddiad cyhoeddi.
Arbedion posibl
Enghraifft yn seiliedig ar wythnos 5 diwrnod
Gan dalu £3.80 y dydd (£19 yr wythnos), cyfanswm y gost flynyddol fyddai £988. Gyda'r drwydded £500, mae hynny'n arbediad o £488 y flwyddyn (tua 49.4%).
Enghraifft yn seiliedig ar wythnos 7 diwrnod
Gan dalu £3.80 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a £1 drwy'r dydd ar ddydd Sul (£23.80 yr wythnos), byddai cyfanswm y gost flynyddol yn £1,237.60. Gyda'r drwydded £500, mae hynny'n arbediad o £737.60 y flwyddyn (tua 59.6%).
Gwneud cais
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:
Ceisiadau newydd
- rhif cofrestru'r cerbyd
- dyddiad cychwyn y drwydded
- enw cyntaf a chyfenw
- cyfeiriad e-bost
- rhif ffôn
- cerdyn debyd / credyd
Adnewyddu eich trwydded
- opsiwn adnewyddu'n awtomatig ar gael