Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Deddf Rheoli Perygl Llifogydd 2010

Rydym yn gyfrifol am atal a lleihau risgiau llifogydd.

Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan y rheoliadau canlynol:

Mae llifogydd yn broses naturiol ac ni all unrhyw system atal pob achos o gorlifo.

Mae gan y Cyngor bwerau o dan Ddeddf Draenio Tir 1991 (LDA 1991), Deddf Priffyrdd 1980 (HA 1980), a Deddf Diogelu'r Arfordir 1949 (CPA 1949) i sicrhau bod tirfeddianwyr preifat yn lleihau eu risg o lifogydd. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Ddeddf Draenio Tir 1991 ar Gov.uk.

Caiff gwaith cynnal a chadw arferol ei wneud gan yr adran Priffyrdd a Gwasanaethau Draenio. Caiff ein holl waith ei wneud ar sail blaenoriaeth.

Byddwn yn anelu at:

  • rhoi cyngor i drigolion ar sut i leihau'r risg o lifogydd
  • cael peirianwyr a gweithwyr yn barod i helpu a gwirio amddiffynfeydd rhag llifogydd a systemau draenio
  • clirio ffyrdd yr effeithir arnynt gan dywydd gwael
  • helpu i wacáu preswylwyr a darparu llety dros dro os oes angen
  • ymateb i geisiadau brys gan y cyhoedd yn seiliedig ar flaenoriaethau ac adnoddau sydd ar gael
  • gweithio gydag asiantaethau eraill i leihau effaith llifogydd a stormydd a chadw gwasanaethau allweddol i redeg

Mewn argyfyngau, byddwn yn ceisio amddiffyn y cyhoedd ond efallai na fyddwn yn gallu helpu pob perchennog tŷ unigol.

 

Lawrlwythiadau (yn Saesneg)

  • Flood risk management plan (PDF 18.22 MB)