Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Strategaeth Rheoli Perygl o Lifogydd Lleol (LFRMS)

Trosolwg

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu fel yr Awdurdod Llifogydd Arweiniol Lleol (LLFA) ar gyfer y fwrdeistref sirol. O dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae'n ofynnol i ni lunio strategaeth a chynllun i reoli perygl llifogydd lleol. Cyhoeddwyd ein Strategaeth Leol flaenorol yn 2014 a'n Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn 2015.

Mae'r Strategaeth ddiwygiedig hon yn cyfuno'r Strategaeth a'r Cynllun yn un ddogfen er mwyn egluro perygl llifogydd lleol mewn ffordd symlach, gliriach a mwy effeithiol.

Perygl llifogydd

Mae perygl llifogydd yng Nghymru yn cael ei waethygu gan:

  • newid yn yr hinsawdd
  • lefelau'r môr sy'n codi
  • cynnydd yn nifer yr achosion o dywydd garw

Yn genedlaethol, mae mwy na 245,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd lleol, gan gynnwys llifogydd o:

  • ddŵr wyneb
  • ddŵr daear
  • gyrsiau dŵr cyffredin

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag Awdurdodau Rheoli Risg eraill, gan gynnwys:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Dŵr Cymru
  • cynghorau cyfagos
  • gwasanaethau brys
  • adrannau'r cyngor

Mae Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys tri o'r 33 ardal sydd wedi'u nodi'n genedlaethol fel ardaloedd sydd mewn perygl sylweddol o lifogydd yng Nghymru: Castell-nedd, Llansawel a Phort Talbot. Rhwng 2013 a 2024, cafodd 464 o eiddo lifogydd mewnol. Mae hyn yn dangos yr angen am fuddsoddiad parhaus a rheolaeth strategol effeithiol.

Ers 2015, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol. Mae dros £3 miliwn o fuddsoddiad gan y cyngor a chyllid Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith cyfalaf a chynnal a chadw. Mae cannoedd o eiddo wedi elwa o'r gwaith hwn.

Rydym hefyd wedi gwella'n sylweddol y ffordd rydym yn rheoli ein hasedau llifogydd, gan gynnwys datblygu mapio manwl sy'n ein galluogi i ymateb yn gyflymach ac yn fwy effeithiol. Yn ogystal, rydym wedi mabwysiadu Atebion Seiliedig ar Natur a Rheoli Llifogydd yn Naturiol, gan gwblhau prosiectau ym Mharc Gwledig y Gnoll a datblygu nifer o gynlluniau eraill.

Y Strategaeth

Mae'r Strategaeth ddiwygiedig yn nodi amcanion, mesurau a chamau gweithredu clir ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Mae'n cyd-fynd â strategaeth genedlaethol Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (RPLEA), yn ogystal â'r dyletswyddau newydd a gyflwynwyd drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Mae'r Strategaeth yn darparu dull strwythuredig sy'n ymdrin â:

  • risgiau sy'n gysylltiedig â'r newid yn yr hinsawdd
  • trefniadau llywodraethu
  • rolau a chyfrifoldebau
  • uchelgeisiau strategol
  • cynllunio camau gweithredu
  • trefniadau ariannu
  • ystyriaethau amgylcheddol
  • monitro perfformiad

Bydd y Strategaeth yn cael ei hadolygu bob dwy flynedd er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i risgiau newydd a pholisïau sy'n datblygu.

Lawrlwythiadau (yn Saesneg)

  • Local Flood Risk Management Strategy and Plan (PDF 5.95 MB)
  • Flood Risk Management Strategy and Plan - Executive Summary (PDF 1.35 MB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau
Nol i ben y dudalen