Deddf Priffyrdd 1980
Mae Deddf Priffyrdd 1980 yn gyfraith yn y DU sy'n ymdrin â ffyrdd yng Nghymru a Lloegr. Mae'n mynd i'r afael â sut i reoli a gofalu am ffyrdd, gan gynnwys draenio, er mwyn atal llifogydd.
Ein cyfrifoldebau:
- Dyletswydd i gynnal a chadw - rhaid i ni gadw'r ffyrdd yn glir a sicrhau draeniad addas.
- Gwaith draenio - gallwn adeiladu a chynnal systemau draenio i atal llifogydd priffyrdd.
- Atebolrwydd am ddifrod - rydym yn atebol am ddifrod ar ei phriffyrdd, a achosir gan ddraeniad gwael.
- Gorfodi - Mae'r Ddeddf yn amlinellu gweithdrefnau ar gyfer camau gorfodi. Gallwn adennill costau gan bartïon cyfrifol, ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweiriadau.