Nant Grandison, Llansawel
Peryglon presennol o lifogydd
- Mae ardal Pant-yr-Heol yn Llansawel wedi dioddef llifogydd cyfnodol. Mae Cwlfert Nant Grandison wedi cyfrannu at y llifogydd hyn. Canfu ymchwiliadau fod y cwlfert yn brin o gapasiti a bod angen ei ehangu.
- Mae llifogydd cyfnodol yn Parc Jersey wedi atal pobl rhag cael mynediad i rannau o'r parc.
Gwaith arfaethedig
Mae'n debyg y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau rhwng haf 2026 a gwanwyn 2028.
Mae'n debyg y bydd yn para am ddeunaw (18) mis.
Y cam presennol
Cam Achos Busnes Llawn. Mae'r gwaith adeiladu i fod i ddechrau yn Haf 2026 unwaith y byddwn yn cael y caniatâd angenrheidiol.
Mae'r prosiect wedi'i gynllunio i ymdopi â'r Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol o 1% (AEP).
Manteision
- Lleihau'r risg o lifogydd dŵr wyneb ar gyfer 380 o eiddo yn Llansawel.
- Helpu i amddiffyn Llansawel a Pharc Jersey rhag llifogydd, hyd at ac yn cynnwys y Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol o 1% (AEP).
- Lleihau difrod ac aflonyddwch ar yr A474 Ffordd Castell-nedd, rhwng Castell-nedd a Llansawel.
- Lleihau nifer y galwadau cynnal a chadw i Nant Grandison a chelfertiau JK.
Amhariadau tebygol
- Cau Ffordd Ynysymaerdy am gyfnod y gwaith cwlfertio.
- Mynediad cyfyngedig i rannau o Barc Jersey tra bod y gwaith yn mynd rhagddo.
- Mwy o draffig adeiladu ar hyd yr A474 Heol Castell-nedd, yr Hen Heol a Phant-yr-Heol.
- Dim mynediad i gaeau chwarae Llansawel am gyfnod y gwaith adeiladu lleol.
- Cyfyngiadau mynediad posibl i dir ysgol a maes parcio Carreg Hir.
Cyllid
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot yn ariannu'r prosiect hwn.
Mae gwerth buddsoddiad cyfredol y cynllun hwn tua £9.5m.
Cysylltwch
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cynllun, cysylltwch â: